Cymru 'yr ail wlad orau yn y byd am ailgylchu' medd astudiaeth
Mae Cymru eisiau cyrraedd y brig yn y byd o ran ailgylchu ar ôl dod yn ail mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher, meddai’r gweinidog amaeth.
Mae Cymru ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan gwmnïoedd ymgynghori amgylcheddol Eunomia Research and Consulting a Reloop.
Mae eu hadroddiad yn cael ei gyhoeddi i gyd fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd.
Mae’n edrych ar sut hwyl y mae 48 o wledydd yn ei chael wrth ailgylchu, gan gynnwys y gwledydd hynny sy'n cofnodi'r cyfraddau ailgylchu uchaf, a llawer o economïau mwyaf y byd.
Mae Gogledd Iwerddon yn 9fed, Lloegr yn 11eg a'r Alban yn 15fed ymhlith y 48 o wledydd sydd wedi cael eu cynnwys wrth gymharu'r cyfraddau.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ei fod yn “newyddion gwych” a’i fod yn “anelu at herio'r wlad sydd wedi cyrraedd y brig”.
“Dw i'n sôn yn aml am y ffordd Gymreig o wneud pethau, ac mae'r ymdrech tîm sydd wedi arwain at y llwyddiant hwn heddiw yn un y dylai pob un fod yn haeddiannol falch ohono – da iawn Gymru!"
Y deg uchaf a’u cyfradd ailgylchu
1.) Awstria - 59%
2.) Cymru - 59%
3.) Taiwan - 53%
4.) Yr Almaen - 52%
5.) Gwlad Belg - 52%
6.) Yr Iseldiroedd - 51%
7.) Denmarc - 51%
8.) Slofenia - 50%
9.) Gogledd Iwerddon - 45%
10.) De Corea - 45%
- Dywedodd Alun Wyn Davies, rheolwr gyfarwyddwr cwmni ailgylchu AWD Group, ei fod yn falch bod “Cymru wirioneddol ar y map gyda’r ffigyrau hyn”.
“Mae’n gyflawniad aruthrol,” meddai.
“Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gweithio yma yn dod o Gastell-nedd Port Talbot.
“Dw i'n dod o'r ardal fy hun felly mae cyflogi pobl leol yn bwysig i fi, yn enwedig gyda'r sefyllfa bresennol yn Tata.”