‘Bron yn drychinebus’: Galw ar bobl i beidio â hedfan dronau at weilch Brenig
Mae’r heddlu wedi galw ar bobl i beidio â hedfan dronau ger nyth gweilch Brenig ar ôl pryderon bod rhywun wedi codi ofn ar y fam a pheryglu bywyd un o’r cywion.
Fe gyrhaeddodd ‘Bob’, y cyw cyntaf sydd wedi deor yn y nyth ar Lyn Brenig eleni, ddydd Sul.
Ond dywedodd corff sy’n gwarchod y gweilch yno ei fod bron a chael “profiad trychinebus” a syrthio o’r nyth ar ôl i rywun hedfan drôn gerllaw.
Dywedodd tîm cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi dod ar draws dau berson yn hedfan drôn gerllaw.
“Newyddion gwych bod cyw cyntaf Gweilch y Pysgod wedi deor ym Mrenig a’i fod yn gwneud yn dda yn ôl pob sôn” medden nhw.
“Fodd bynnag fe ddaethon ni ar draws dau berson yn hedfan drôn yn y cyffiniau.
“Ni chaniateir hedfan dronau yn Brenig heb awdurdod y rheolwyr. Yn amlwg, gallai defnyddio dronau ar yr adeg sensitif hon gael effaith andwyol ar yr adar.”
‘Ffodus’
Dywedodd Prosiect Dyfi Brenig bod Bob wedi cael “profiad annisgwyl a bron yn drychinebus yn gynharach heddiw”.
“Cafodd ei fam ei haflonyddu a hedfanodd oddi ar y nyth gan fwrw Bob bach i ochr arall y nyth,” medden nhw.
“Yn ffodus llwyddodd yr un bach i rolio/cropian yn ôl i ganol y nyth. Ffiw!
“Fe wnaeth rywun hedfan drôn gerllaw a llwyddodd Heddlu Troseddau Cefn Gwlad i’w hatal.
“Efallai mai hyn oedd y rheswm i’r fam gael braw ond nid ydym 100% yn siŵr o hynny.”
Llun: Bob yn cael ei daflu oddi ar ei echel gan ei fam.