Newyddion S4C

‘Doedd o ddim yn atebol i neb’: Methiannau llywodraethwyr a chyngor i ddisgyblu Neil Foden

Y Byd ar Bedwar 03/06/2024

‘Doedd o ddim yn atebol i neb’: Methiannau llywodraethwyr a chyngor i ddisgyblu Neil Foden

“Oedd na fflagiau coch mawr. Oedd ‘na ddim her neu sialens iddo fo gan y llywodraethwyr,” meddai un aelod o staff a wnaeth godi pryderon am y prifathro, Neil Foden.

Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar ar ddeall fod aelodau undebau addysg yn Ysgol Friars wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraethwyr wedi’r achos yn erbyn eu cyn-bennaeth, Neil Foden.

Ar 15 Mai cafodd Foden ei ddyfarnu yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol rhwng 2019 a 2023. Roedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle.

Image
Cafodd Neil Foden ei apwyntio yn Brifathro ysgol Friars yn 1997.
Cafodd Neil Foden ei benodi yn Brifathro ysgol Friars yn 1997.

Mewn rhaglen arbennig ar S4C, mae gweithiwr yn Ysgol Friars yn datgelu bod staff ysgol wedi colli pob ffydd yn y corff llywodraethol. Nhw sydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau dros yr ysgol, a disgyblu athrawon pan fod angen.

‘Neb yn herio’

“Gyno nhw ddim ffydd o gwbl. Ma’ nhw’n unfrydol bod ganddyn nhw ddim hyder yn y llywodraethwyr presennol,” meddai aelod o staff sydd yn dymuno aros yn anhysbys.

Yn ôl yr aelod o staff, fe wnaeth y corff llywodraethwyr fethu yn eu dyletswyddau i ddisgyblu Neil Foden ar ôl iddo ei gael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn 2020.

Yn ystod y gwrandawiad, fe glywodd y panel fod bron i holl staff yr ysgol wedi arwyddo llythyr yn cefnogi Neil Foden.

Image
Yn 2014 fe wnaeth Neil Foden ddweud wrth Simon Wilson na fyddai yn cael ei gosbi am chwythu’r chwiban am ganlyniadau ffug, ond yn ôl Mr Wilson, wnaeth hynny ddim digwydd.
Yn 2014 fe wnaeth Neil Foden ddweud wrth Simon Wilson na fyddai yn cael ei gosbi am chwythu’r chwiban am ganlyniadau ffug, ond yn ôl Mr Wilson, wnaeth hynny ddim digwydd.

Cyn hynny, fe wnaeth Simon Wilson, aelod o staff yn Ysgol Friars ennill tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn Neil Foden yn 2018. Fe wnaeth yr athro bioleg dderbyn iawndal o £8,000 o ganlyniad i’r ffordd gafodd ei drin gan y cyn-bennaeth.

Roedd hyn ar ôl i Mr Wilson godi ei bryderon am ganlyniadau yn cael eu ffugio yn Ysgol Friars yn 2014. Ar e-bost, wnaeth Neil Foden ddweud y byddai Mr Wilson yn cael ei warchod dan y ddeddf chwythu’r chwiban, ac felly ddim yn cael ei gosbi am godi’r pryderon.

Ond yn ôl Lesley Wilson, gwraig Mr Wilson wnaeth hynny ddim digwydd.

“Cafodd fy ngŵr ei fwlio a'i aflonyddu gan Neil Foden dros gyfnod o bedair blynedd… cafodd ei ddisgyblu ddwywaith, a’i wahardd dros gyhuddiad ffug,” meddai Mrs Wilson.

Image
Mae Lesley Wilson wedi penderfynu siarad ar ran ei gwr am ei fod yn parhau i ddysgu mewn sir wahanol.
Mae Lesley Wilson wedi penderfynu siarad ar ran ei gwr am ei fod yn parhau i ddysgu mewn sir wahanol.

Mae Mrs Wilson o’r farn y dylai Llywodraethwyr Ysgol Friars a Chyngor Gwynedd fod wedi diswyddo Foden yn dilyn y tribiwnlys. Mae'n honni fod Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, Essi Ahari wedi methu â sicrhau fod Neil Foden yn cael ei gosbi.

“Fe ddylai Foden wedi o leiaf cael ei ddisgyblu. Dwi’n teimlo bod Foden wedi cael cyfle i deimlo yn fwy awdurdodol a phwerus gan ei alluogi i fynd yn ei flaen i droseddu yn erbyn plant.

“Do’dd Neil Foden byth yn atebol i neb. Mae o yn drist bod o wedi cymryd merched ifanc i siarad allan a’i ddal yn gyfrifol. Doedd yr holl ddynion hyn mewn swyddi cyfrifol ddim yn barod i sefyll fyny iddo.”

‘Be ma’ nhw’n guddiad?’

Yn ôl yr aelod o staff anhysbys mae Corff Llywodraethu Ysgol Friars wedi derbyn Cais Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn i gael gweld y drafodaeth o amgylch canlyniadau Tribiwnlysoedd Cyflogaeth rhwng 2015 a 2023, gan gynnwys un Simon Wilson.

Byddai'r rhain wedi cynnwys trafodaethau am unrhyw gamau disgyblu posib yn erbyn Neil Foden. Ond yn eu hymateb mae’r llywodraethwyr wedi gwrthod rhyddhau unrhyw sgyrsiau sy’n ymwneud â’r achosion.

Dywedodd yr aelod o staff, “Yr unig beth maen nhw wedi ei dderbyn ydy cofnodion sydd wedi cael eu redactio ac mae’r drafodaeth i gyd wedi cael ei redactio. Da ni ddim yn gwybod be sy’ ‘di gael ei drafod. O’dd sawl cais yn gorfod cael ei ‘neud i’r awdurdod.

“Be ma’ nhw’n guddiad?”

Cadeirydd y Llywodraethwyr yn 'camu i lawr’

Ychydig dros wythnos ar ôl i Foden gael ei ganfod yn euog fe wnaeth Mr Essi Ahari, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Friars a’r dirprwy Gadeirydd gamu i lawr o’u dyletswyddau ar y corff llywodraethol.

Yn ei lythyr ymddiswyddo sydd wedi ei rannu gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae Mr Ahari yn disgrifio'r rheithfarn yn erbyn Neil Foden fel carreg filltir.

“Rydw i a’r is-gadeirydd wedi trafod beth yw’r peth gorau i’r ysgol, y bwrdd a ninnau fel unigolion. Daethom i'r casgliad mai nawr yw’r amser iawn i gamu i lawr.”

Mewn ymateb i dribiwnlys Simon Wilson, fe ddywedodd Mr Ahari fod y llywodraethwyr wedi cael cyngor yr Awdurdod Lleol a bod person annibynnol wedi cael ei benodi i edrych ar brosesau’r ysgol, fel rhan o’u hymgais i ddysgu gwersi.

‘Gwersi i’w dysgu’

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi bod y Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i edrych mewn i’r hyn ddigwyddodd gyda Neil Foden.

Mae’r aelod o staff anhysbys yn galw ar yr adolygiad i fod yn eang. “Dwi’n gobeithio na dim jyst yr lessons have to be learnt fydd o.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Bydd yr Adolygiad yn tynnu sefydliadau at ei gilydd – gan gynnwys Cyngor Gwynedd a chyrff eraill – er mwyn adnabod pa wersi sydd i’w dysgu a pha welliannau sydd angen eu cyflwyno i sicrhau diogelwch a llesiant plant bregus ac atal achosion tebyg rhag digwydd eto.

“Gyda’r broses droseddol yn tynnu tua’i derfyn, mae’r gwaith o adolygu a sefydlu pa wersi sydd i’w dysgu o’r achos yn dechrau, ac mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi datgan eu bod am gynnal Adolygiad Ymarfer Plant, yn unol â chanllawiau Adolygu Ymarfer Plant cenedlaethol.”

Bydd Y Byd ar Bedwar - O Bennaeth i Bedoffeil ar S4C, Nos Lun 3 Mehefin am 20.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.