Keir Starmer 'ddim yn gwerthfawrogi'r helynt' y mae Vaughan Gething ynddo
Nid yw Syr Keir Starmer “yn gwerthfawrogi’r helynt” y mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn ei wynebu, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud nad yw’r Blaid Lafur wedi gwerthfawrogi’r sefyllfa y mae Vaughan Gething ynddi, wrth iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd yr wythnos nesaf.
Fe gyhuddodd y Blaid Lafur hefyd o ddallu pobol Cymru am y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.
Mae Mr Gething, sydd wedi bod yn arweinydd Llafur Cymru ers mis Mawrth, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ar ôl cael ei daro gan sgandal, gyda chwestiynau’n cael eu codi am rodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae honiadau hefyd fod Mr Gething wedi dileu negeseuon a allai fod o ddiddordeb i Ymchwiliad Covid-19 y DU.
Wrth siarad yn ystod ymweliad ymgyrchu â Rhydaman, dywedodd Mr ap Iorwerth fod pleidleiswyr yn siarad am Mr Gething ar garreg y drws.
Dywedodd: “Mae gennym ni Brif Weinidog cythryblus iawn, iawn, ac mae’n ymddangos nad yw Keir Starmer yn gwerthfawrogi’r helynt y mae ei arweinydd yng Nghymru yn ei wynebu.
“Ond mae'n amlwg iawn i mi o sgyrsiau ar garreg y drws, o e-byst rydw i wedi'u derbyn, o negeseuon rydw i wedi'u derbyn, o sgyrsiau ar y stryd fel rydw i'n eu cael yn Rhydaman heddiw, bod pobl yn cydnabod yn llwyr bod gennym ni arweinydd, Prif Weinidog yng Nghymru, nad yw yn cyrraedd y safonau uchel y dylem ddal ein harweinwyr gwleidyddol iddynt.”
Cynnig
Mae pob un o’r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r cynnig o ddiffyg hyder yn Mr Gething, gyda phleidlais yn cael ei chynnal ar 5 Mehefin.
Ychwanegodd Mr ap Iorwerth: “Nid oes gan y gwrthbleidiau hyder yn Vaughan Gething, yn bwysicach na hynny, rydym yn glir nad oes gan bobl Cymru hyder ynddo.
“Llafur sy’n gyfrifol am hyn, os yw aelodau Llafur o’r Senedd, ac yn bwysicach fyth, Keir Starmer am ei gadw yn ei le, bydd yn aros yn ei le. Eu galwad nhw yw hi.”
Wrth annerch gohebwyr ddydd Iau, dywedodd Syr Keir ei fod yn “falch” o record Llafur yng Nghymru a dywedodd fod Mr Gething yn gwneud “gwaith da iawn”.
Mae Mr Gething bob amser wedi mynnu nad oedd wedi torri unrhyw reolau ynglŷn â’r rhodd o £200,000.
Dywedodd hefyd nad oedd gwybodaeth gan y cyfryngau a ddangosodd iddo ddweud ei fod yn dileu negeseuon testun mewn sgwrs grŵp gweinidogol yn 2020 yn gwrth-ddweud tystiolaeth a roddodd i Ymchwiliad Covid-19.