'Fel hedfan bricsen': Atgofion dyn o Gonwy o hedfan gleider yn yr Ail Ryfel Byd
Ar drothwy digwyddiadau i nodi 80 o flynyddoedd ers D-Day ar 6 Mehefin eleni, mae dyn o Sir Conwy wedi bod yn hel atgofion am y peryglon o hedfan gleider yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd gleiderau yn cael eu defnyddio i gludo milwyr a chyflenwadau, ac yn cael eu tynnu gan awyrennau dros ogledd Ffrainc cyn glanio yn Normandi.
Roedd milwyr wedyn yn gallu dal pontydd dros yr afonydd pwysig, gan rwystro milwyr y gelyn a chaniatáu i luoedd y Cynghreiriaid wthio ymlaen o’r traethau.
Fe wnaeth Brian Latham, 100 oed , o Landudno hedfan gleider yn cludo milwyr a chyflenwadau i'r Almaen yn ystod Ymgyrch Varsity, ychydig wythnosau'n unig cyn Diwrnod VE ar ddiwedd y rhyfel.
Dywedodd am y gleider: “Roedd yn beth defnyddiol iawn tua diwedd y rhyfel ac roedd yn hollbwysig ar D-Day, glaniodd y gleiderau o flaen y milwyr a gan gipio nifer o leoliadau amlwg fel Pont Pegasus.
“Fe gollon nhw uffern o lawer o bobl, dwi’n gwybod hynny.”
Pan ofynnwyd iddo sut brofiad oedd hedfan, dywedodd: “Roedd yn dipyn o brofiad, does dim dwywaith, fe aethoch yn syth i lawr.
“Roedd fel mosgito wedi'i wneud o bren.”
Hedfanodd Peter Davies, 101 oed, o Bollington yn Sir Gaer, gleider Hamilcar fel rhan o Ymgyrch Varsity, a dargedodd Afon Rhein yn yr Almaen ym 1945.
Dywedodd am y gleider: “Mae’n wahanol iawn i hedfan awyren wedi’i phweru oherwydd unwaith y byddwch chi wedi’ch tynnu a’ch bod chi wedi ymrwymo dim ond un ffordd sydd, a hynny i lawr, mae fel hedfan bricsen.
“Pan wnaethoch chi lanio, roedd gennych chi 30 o ddynion o'ch cwmpas, yn wahanol i barasiwtwyr a oedd wedi'u gwasgaru ar hyd y lle.
“Roedd yn golygu bod yr uned yn uned. Sut fyddech chi'n cael tanc neu wn 17-pwys ar y ddaear? Trwy eu rhoi mewn clamp o awyren.
“Doedd gan y gleider ddim injans, ond mae’n debyg ein bod ni wedi cario mwy o filwyr nag oedd wedi neidio allan o awyren erioed.”
Llun: © IWM (H 39178)