Newyddion S4C

2,000 o achosion Covid-19 yr Alban yn gysylltiedig â Euro 2020

The Scotsman 30/06/2021
Wembley
Wembley

Fe wnaeth bron i 2,000 o gefnogwyr pêl-droed o'r Alban brofi'n bositif am Covid-19 ar ôl mynychu digwyddiadau'n ymwneud â phencampwriaeth bêl-droed Euro 2020 medd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban.

Roedd bron i ddwy ran o dair (1,294 achos) wedi mynychu digwyddiad Euro 2020 yn Llundain, gan gynnwys 397 person a gadarnhaodd eu bod wedi mynychu gêm Yr Alban v Lloegr yn Stadiwm Wembley ar 18 Mehefin.

Roedd bron i dri chwarter o'r achosion oedd yn gysylltiedig â Euro 2020 rhwng 20 a 39 oed, a naw o bob 10 achos yn ddynion, yn ôl The Scotsman.

Darllenwch y manylion yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.