Newyddion S4C

Llacio rheolau ar gyfyngiadau hylif mewn rhagor o feysydd awyr

31/05/2024
Hylifau 100ml maes awyr

Maes Awyr Bryste yw'r diweddaraf i gyflwyno technoleg newydd sydd yn golygu na fydd angen i deithwyr boeni am deithio â hylifau fel poteli dŵr sydd cynnwys llai na 100ml o hylif.

Mae buddsoddiad newydd gwerth £11 miliwn yn golygu na fydd yn rhaid i deithwyr dynnu hylifau a gliniaduron o'u bagiau yn y maes awyr bellach.

Ni fyddant yn cael eu cyfyngu i gario 100ml o hylifau neu lai chwaith, gyda'r rheolau llym ar fin cael eu dileu yno wrth gyflwyno'r dechnoleg newydd.

Mae Maes Awyr Bryste wedi cyhoeddi y bydd disgwyl i'r sganwyr newydd fod yn weithredol erbyn 14 Mehefin.

Mae hynny'n golygu y bydd unrhyw un sy'n hedfan allan o'r maes awyr yr haf hwn yn gallu mynd drwy'r camau diogelwch yn gynt, heb orfod poeni am gyfyngiadau hylifau.

Meysydd awyr eraill

Ond nid yw'r dechnoleg wedi ei chyflwyno ym mhob maes awyr eto.

Nid oes gan Heathrow, Gatwick, Stansted a Manceinion y dechnoleg hyd yma, ac maen nhw wedi cael estyniad tan haf 2025 i wneud yn siŵr eu bod wedi gosod y sganwyr newydd.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Faes Awyr Caerdydd os ydy'r sganwyr yn cael eu cyflwyno yno.

Mae'r dechnoleg yn cael ei chyflwyno mewn meysydd awyr dramor, gydag ychydig o leoliadau y tu allan i'r DU eisoes yn eu defnyddio.

Mae cymdeithas masnach teithio ABTA wedi rhybuddio unrhyw un sy’n mynd dramor i gadw at y rheolau 100ml presennol, gan ddweud nad oes gan lawer o feysydd awyr tramor y sganwyr newydd hyd yma.

Llun: Izabela Habur / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.