Dynes wedi marw wedi iddi gael ei darganfod yn y môr ger Llandudno
30/05/2024
Mae dynes 57 oed a gafodd ei darganfod yn y môr ger Llandudno fore dydd Mercher wedi marw.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru, Gwylwyr y Glannau, y gwasanaeth ambiwlans a'r bad achub wedi dechrau chwilio am y ddynes tua 3:00.
Cafodd ei darganfod yn y môr a chafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd.
Bu farw yn yr ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kris Williams: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes ar hyn o bryd, ac rydym yn parhau i’w cefnogi.
“Nid yw amgylchiadau’r farwolaeth yn cael eu trin fel rhai amheus, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.”