Beiciwr modur 20 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy
Mae beiciwr modur 20 oed wedi marw a dau berson wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy.
Bu farw'r dyn ar y beic modur yn y fan a'r lle tra bod dau berson oedd yn teithio mewn car Fiat Panda du wedi cael eu cludo i'r ysbyty.
Nid yw anafiadau dynes 83 oedd yn gyrru'r car a dynes 79 oed oedd yn teithio yn y car yn rhai sydd yn peryglu eu bywydau.
Cafodd swyddogion ynghyd â gweithwyr ambiwlans eu galw i'r gwrthdrawiad ar hyd y B4293 rhwng Trefynwy a Threllech rhwng nos Fercher.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion ac yn gofyn am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y B4293 rhwng 18.45 a 19.00.
Gall unrhyw un sydd â chamera dashfwrdd neu gamerâu cylch cyfyng gysylltu â'r llu drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu X gan ddyfynnu cyfeirnod 2400176227.
Llun: Google