Newyddion S4C

Lois Medi Wiliam yw prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

30/05/2024

Lois Medi Wiliam yw prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Mewn seremoni arbennig o lwyfan y Pafiliwn Gwyn ym Meifod, datgelwyd mai Lois Medi Wiliam, yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor yw prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

Mae Lois ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol. Mae hi’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle’r enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf. 

Enillodd hefyd goron eisteddfod Ysgol Tryfan, Bangor a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy.

Ddwy flynedd yn ôl daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama yr Urdd. Y llynedd dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas am y gerdd orau i rai rhwng 16 a 25 oed. 

Mae hi eisoes wedi cyhoeddi cerddi yn Codi Pais ac yn Ffosfforws  (Cyhoeddiadau’r Stamp), ond dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi ei barddoniaeth yn unigol.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun: ‘Gwrthryfela’. Ysgrifennodd Lois y gerdd fuddugol er cof am ei thaid, un a hybodd ei diddordeb mewn llenydda. 

Dywedodd y beirniaid Tegwyn Pughe Jones a Mari George fod Lois yn haeddu’r gadair am ‘gynildeb hyfryd’ ei cherdd.

“Fe lwyddodd cerdd syml y bardd hwn i fynd â fy ngwynt," medden nhw.

"Ymgais i ddygymod â galar sydd yma ac mae’r dweud yn hynod afaelgar o’r dechrau un. Nid yw’r thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a’r ymdriniaeth a’r thema yn taro deuddeg. 

"Mae’n llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.” 

'Cyfle unwaith mewn bywyd'

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Brennig Davies o Gaerdydd a Tesni Elen Peers o Wrecsam yn drydydd. Bydd gwaith y ddau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Urdd heddiw. Bydd y gwaith buddugol ynghyd â'r feirniadaeth ar gael i'w darllen yng Nghyhoeddiadau’r Stamp ar ôl y seremoni.

Mae Lois yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saer Siôn Jones o Lanidloes a’i rhoi gan NFU Cymru Maldwyn.

Meddai Siôn am y profiad o greu cadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn: “Mae creu cadair Eisteddfod yr Urdd yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae creu'r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu yn fraint. 

"Mae’r Urdd yn bwysig i Gymru ac yn dod â phobl â’r iaith at ei gilydd, mae’r ffaith bod fy nghadair i yn mynd i serennu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn yn rhywbeth dwi’n falch iawn ohono.”

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.