Newyddion S4C

'Mr Llanfairpwll': Cynnal diwrnod i gofio'r cynghorydd Alun Mummery

31/05/2024

'Mr Llanfairpwll': Cynnal diwrnod i gofio'r cynghorydd Alun Mummery

Fe fydd yna 'ddiwrnod i gofio' y cynghorydd bro a sir o Fôn, Alun Mummery, ddydd Sadwrn. 

Bu farw Mr Mummery o Lanfairpwll yn 80 oed ym mis Rhagfyr 2022. 

Roedd yn gynghorydd sir dros Blaid Cymru ar Ynys Môn ers degawdau, ac yn aelod blaenllaw o gyngor pentref Llanfairpwll am o leiaf hanner canrif. 

I nifer fawr o bobl, Alun Mummery oedd 'Mr Llanfairpwll' ac roedd ei ddylanwad ar bêl-droed yn y pentref ac ar Ynys Môn yn bellgyrhaeddol. 

Roedd Mr Mummery hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar wasanaethau newyddion y BBC ac S4C, ac yn ganolog i'r ymgyrch er mwyn ceisio ail-agor Tŵr Marcwis yn y pentref yn ogystal â bod yn aelod brwdfrydig o'r clwb bowls.

Fe gafodd ei anrhydeddu i’r Wisg Las yn yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern yn 2017 am ei gyfraniad oes i’w gymuned.

Ddydd Sadwrn, fe fydd yna gêm goffa er cof am Mr Mummery yn cael ei chynnal ar gae Maes Eilian yn y pentref, gan gynnwys chwaraewyr presennol y clwb yn ogystal â rhai o'r gorffennol. 

Image
Alun, a'i wraig, Gwyneth, a'u plant, Catherine, Gareth a Lynne.
Alun, a'i wraig, Gwyneth, a'u plant, Catherine, Gareth a Lynne.

Wrth siarad am ei thad, dywedodd un o ferched Mr Mummery, Catherine Jones, wrth Newyddion S4C: "Oedd o'n dad sbeshial iawn, o'dd o'n ddigon parod i helpu pawb, o'dd o'n gymwynasgar ac yn trin pawb yr un fath, o'dd o'n deg ofnadwy.

"O'dd o'n funny...o'dd o'n dipyn o gymeriad a fydd 'na neb fatha Dad, neith 'na neb i'w sgidia fo."

Ychwanegodd Trysorydd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll, Wil Parry: "Mae unrhyw un sy'n gyfarwydd efo'r pentref yn gwybod fod Alun wedi treulio blynyddoedd yn was da i'r pentref. 

"Oedd o'n gynghorydd bro am flynyddoedd, o'dd o'n gynghorydd sir ag oedd o'n ysgrifennydd y clwb ers i'r clwb gael ei ail-ddechre yn y 70au.

"Felly mae ei gyfraniad o oddi ar y cae ac ar y cae yn Llanfairpwll wedi bod yn fawr."

Image
Alun
Roedd Alun yn ganolog i Glwb Pêl-droed Llanfairpwll.

Roedd Llanfairpwll a chlwb y pentref yn "agos iawn" at galon Mr Mummery.

Dywedodd ei ferch, Lynne Owen: "'Swn i'n deud bob dim, o'dd o'n ddyn i bentra, dyn ei bobl, oedd o isio neud yn siwr bod bob dim yn iawn yn yr ysgol, oedd o ar fwrdd llywodraethwyr yr ysgol, ag oedd o wedi cwffio am lot o betha i gael i'r pentra.

"Dwi'n meddwl bod o'n ddyn ei bentra go iawn, ag oedd o'n licio gwbod bod o'n gallu helpu pobl ei bentra, ag oedd o isio dyfodol i'r pentra."

Ychwanegodd Catherine: "Oedd y clwb yn agos iawn at ei galon o, 'di bod efo nhw ers blynyddoedd, a fel pentra hefyd, mae o wedi neud gymaint i'r pentra ac i helpu pobl. 'Mr Llanfairpwll' 'de, pwy o'dd ddim yn 'nabod o!

"O'dd o'n gynghorydd ag o'dd o reit hawdd i siarad efo, o'dd pobl yn teimlo yn barod i fynd ata fo ag yn hapus idda fo weithio ar eu rhan nhw mewn ffordd."

Yn ôl Trysorydd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll, Wil Parry, ni fyddai'r clwb yn bodoli heddiw oni bai am Mr Mummery.

"Fase 'na ddim clwb yma ond am Alun a rwan ma' Alun wedi mynd, 'chydig iawn ohonom ni sydd yma a 'dan ni isio cario 'mlaen oherwydd Alun deud y gwir," meddai.

"Mi fuodd ei ddylanwad o yn anferth."

Image
Alun
Fe gafodd ei anrhydeddu i’r Wisg Las yng Ngorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern yn 2017 am ei gyfraniad oes i’w gymuned.

Wedi'r gêm bêl-droed yn y prynhawn, bydd yna noson i ddiolch am ei gyfraniad i'r gymuned yn y nos, gyda pherfformiadau gan Dafydd Iwan, Elin Fflur a'r Moniars, ac elw y noson a'r diwrnod yn mynd tuag at elusen Young Lives vs Cancer.  

Mae'r elusen yn agos iawn at galonnau'r teulu, a hynny wedi i or-wyres Mr Mummery, Ania Wyn, farw yn bump oed yn 2021 o diwmor ar yr ymennydd nad oedd modd ei drin.

"Dan ni gyd yn cofio amdani, nawn ni fyth anghofio amdani," meddai nain Ania, Lynne.

Image
Alun ac Ania
Alun gyda'i or-wyres, Ania Wyn, fu farw yn 2022.

Mae dylanwad Mr Mummery ar y to iau mewn cymdeithas hefyd yn bwysig yn ôl ei ferch, Lynne.

"Dwi'n meddwl be' ma lot wedi dod ata ni yn deud ar ôl i ni golli Dad, sef lot o bobl ifanc sydd rwan yn mynd ar y cyngor bro a'r cyngor sir, yn deud faint o ddylanwad o'dd Dad 'di cael arnyn nhw i fynd yn eu blaena a neud dros eu pentrefi," meddai.

"Dwi'n meddwl bod o wedi cymeryd llawer ohonyn nhw o dan ei wing a bod o jyst yn licio gweld y pobl ifanc yn dod i mewn ac yn mynd yn eu blaena ac yn cadw petha' i fynd achos heb bobl i neud, ma' petha yn marw dydi.

"Ma'n bwysig bod pobl yn cario 'mlaen ag oedd o wrth ei fodd yn gweld y bobl ifanc yn gwneud hynny, ac yn eu canmol nhw hefyd!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.