Cwmni o Gymru yn gobeithio cynhyrchu prawf gwaed MS 'cyntaf o'i fath yn y byd'
Mae cwmni o Gymru yn gobeithio cynhyrchu prawf gwaed ar gyfer sglerosis ymledol, neu MS - "y cyntaf o'i fath yn y byd."
Ar ddiwrnod MS y byd mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu gwybodaeth am brosiect cwmni yng Nghaerdydd.
Bydd technoleg cwmni Immunoserv, sydd wedi ei leoli ar gampws y Mynydd Bychan Prifysgol Caerdydd yn datblygu profion Cell T, sy'n cael eu defnyddio mewn diagnosteg a meddygaeth fanwl.
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod nhw'n datblygu prawf gwaed diagnostig sydd wedi'i ddilysu'n glinigol ar gyfer MS - y cyntaf o'i fath yn y byd.
Mae'r prosiect hwn yn un o bump cynllun sy'n cael eu cefnogi gan £900,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi "prosiect sy'n addo darparu buddion meddygol gwirioneddol trwy dechnoleg gwyddorau bywyd o'r safon uchaf."
'Cenedl gryfach a thecach'
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles bod cwmnïau o Gymru yn datblygu syniadau allai achub bywydau.
"Lansiwyd ein rhaglen Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) yr haf diwethaf i helpu busnesau a sefydliadau Cymru i wella bywydau bob dydd pobl trwy ysgogi ymchwil ac arloesi blaengar.
"Rydyn ni eisiau adeiladu cenedl gryfach a thecach gydag economi yn seiliedig ar waith teg, cynaladwyedd a sectorau'r dyfodol - mae'r rhaglen gymorth yn cynnig sylfaen gref i'r uchelgais hon.
"Fel y gwelir gyda'r prosiectau ysbrydoledig hyn, mae cwmnïau o Gymru yn datblygu syniadau sy'n newid y byd a allai achub bywydau pobl yn y pen draw."
Llun: PICRYL