Newyddion S4C

Cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething ar Mehefin 5ed

29/05/2024

Cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething ar Mehefin 5ed

Bydd pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog Vaughan Gething yn cael ei chynnal yn y Senedd ar Mehefin 5ed, medd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae'r Ceidwadwyr wedi rhoi'r cynnig gerbron yn sgil pwysau cynyddol ar Mr Gething wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething hefyd wedi gwrthod dangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi iddo honni ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i'r wasg. Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae'r rhes o gwestiynau sydd ddim wedi eu hateb wedi parlysu Llywodraeth Cymru i'r fath raddau fel bod Gething yn methu'n llwyr a chymryd camau i ddelio a rhestrau aros y Gwasaneth Iechyd, cyrhaeddiad addysgiadol yn gwaethygu, a diffyg gweithgaredd economaidd."

Ond dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, ei fod yn cefnogi Mr Gething.

"Mae'n gwneud gwaith da. Cafodd ei ethol, a rydw i'n edrych ymlaen i fod gydag o yn yr ymgyrch yma, lle byddwn ni'n ymgyrchu gyda'n gilydd i ethol beth rwy'n gobeithio fydd y Llywodraeth Llafur nesaf."

Y Blaid Lafur sydd â 30 o'r 60 sedd yn y Senedd, felly byddai'n rhaid i o leiaf un aelod Llafur unai ymatal neu bleidleisio gyda'r gwrthbleidiau, er mwyn i'r cynnig lwyddo.

Rhoddodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, ei gefnogaeth i Mr Gething cyn y cynnig bleidlais diffyg hyder.

Dywedodd wrth ohebwyr yng Nghaerwrangon ddydd Mercher: “Mae’n gwneud gwaith da, cafodd ei ethol ac rwy’n edrych ymlaen at fod gydag ef yn yr ymgyrch hon lle byddwn yn ymgyrchu gyda’n gilydd ar gyfer, yr hyn rwy’n obeithio fydd, y llywodraeth Lafur nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.