Newyddion S4C

AS Cymreig a gafodd ei wahardd am aflonyddu rhywiol i sefyll fel ymgeisydd annibynol

29/05/2024
Rob Roberts

Mae AS Cymreig a gafodd ei wahardd o’r Ceidwadwyr am aflonyddu yn rhywiol wedi dweud y bydd yn sefyll eto fel ymgeisydd annibynnol.

Fe gafodd AS Delyn, Rob Roberts, ei wahardd o Dŷ'r Cyffredin am chwe wythnos ym mis Mai 2021 am aflonyddu un o'i staff yn rhywiol.

Fe gafodd hefyd ei wahardd o'r Blaid Geidwadol am gyfnod o 12 wythnos.

Ond fe wnaeth o barhau i eistedd fel AS annibynnol drwy gydol gweddill y Senedd am nad oedd y Blaid Geidwadol wedi dychwelyd y chwip iddo.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei fod bellach yn bwriadu sefyll fel aelod annibynnol am fod "digon o bobl wedi fy annog".

Mae ei sedd bresennol, Delyn, yn dod i ben wrth i nifer yr etholaethau yng Nghymru gael eu cwtogi o 40 i 32.

Ei fwriad yw sefyll yn etholaeth Dwyrain Clwyd. 

Mae Aelod Seneddol presennol Dyffryn Clwyd, James Davies, wedi ei ddewis yn ymgeisydd y Blaid Geidwadol yn yr etholaeth.

Mae ymgeiswyr eraill Dwyrain Clwyd yn cynnwys Alec Dauncey i’r Democratiaid Rhyddfrydol, Becky Gittins i’r Blaid Lafur, Lee Lavery i’r Blaid Werdd a Paul Penlington i Blaid Cymru. 

‘Dim arian’

“Mae digon o bobl wedi fy annog i sefyll fel annibynnol, felly dyna ydw i’n bwriadu ei wneud,” meddai Rob Roberts yn ei neges.

“Rydw i wedi bod yn cynnal trafodaethau ag uwch swyddogion y Blaid Geidwadol am sefyll fel ymgeisydd Torïaidd mewn sedd arall mewn rhan arall o’r wlad gan fod ymgeisydd eisoes yn etholaeth newydd Dwyrain Clwyd y bydd Delyn ynddi.”

Ond dywedodd ei fod yn teimlo ei fod wedi ei drin yn annheg gan y blaid ac y byddai yn “sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiad sydd i ddod, yn dilyn fy ngwaith dros y pedair blynedd diwethaf yn hyrwyddo a chynorthwyo fy nghymuned gartref”.

“Does gen i ddim arian i'w daflu at lenyddiaeth ymgyrchu na hysbysebu, felly'r cyfan y gallaf ei ofyn yw bod cefnogwyr yn rhannu fy negeseuon Facebook fel bod y gair yn lledaenu cymaint â phosib,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.