Newyddion S4C

Gosod bwrdd hysbysebu mewn tafarn i annog myfyrwyr i drafod eu problemau

ITV Cymru 28/05/2024
Bwrdd hysbyseb Misfits

Mae bar yng Nghaerdydd wedi gosod arwydd hysbysebu er mwyn annog myfyrwyr i ddefnyddio eu llais i dynnu sylw at broblemau maen nhw’n eu hwynebu.

Yn ôl y rhai sydd yn gweithio ym mar Misifts yn Cathays mae yna sawl mater sydd yn eu poeni ac mae angen gwneud mwy i'w hannog i ddweud eu dweud.

Pan gafodd y dafarn ei sefydlu yn 2021 y nod oedd dod yn ased i'r gymuned leol.  

Mae llawer o'r staff yn fyfyrwyr neu yn gyn-fyfyrwyr eu hunain.

Gobaith y rhai sy'n gweithio yno yw bod y bar yn lle y gall pobl deimlo'n ddiogel ac ysgogi trafodaethau ar bynciau sydd ddim yn cael sylw digonol.

Dywedodd un o sylfaenwyr Misfits, Eran Kenny wrth ITV Cymru Wales: “Ry’n ni eisiau gweiddi am y pethau sy’n bwysig i chi a does dim ffordd well o wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud hyn na thrwy fynd yn syth at lygad y ffynnon.”

Ychwanegodd Eran ei bod hi'n bwysig iddyn nhw fod pobl yn cael lleisio'u barn. 

"Dydyn ni ddim yn cymryd yn ganiataol beth maen nhw eu eisiau a’u hangen. Dy’n ni ddim yn fyfyrwyr bellach. Dy’n ni ddim bob amser yn 100% berthnasol o safbwynt yr hyn maen nhw yn eu profi a'r hyn maen nhw’n mynd drwyddo."

Mae diogelwch yn bwnc sydd yn codi yn aml meddai.

“Un maes sy’n peri pryder sy’n codi dro ar ôl tro yw pa mor anniogel a bregus mae pobl yn teimlo wrth gerdded o amgylch Caerdydd ar eu pen eu hunain. Mae pwysau ariannol yn realiti i lawer o bobl, yn enwedig myfyrwyr ac nid yw tacsis bob amser yn fforddiadwy, a gall hyn eu gadael heb unrhyw ddewis ond cerdded adref ar eu pen eu hunain."

Dywedodd Eran mai ond newydd cael ei osod mae'r bwrdd hysbysebu ac y byddan nhw yn parhau i esblygu wrth glywed lleisiau'r myfyrwyr yng Nghaerdydd. 


 



 

 

 

 


 

 


 

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.