Newyddion S4C

Cymro wedi gorfod byw 'dan y grisiau' ar ôl strôc

28/05/2024
Keith Parry

Roedd yn rhaid i ddyn a ddioddefodd strôc gysgu mewn cilfach o dan y grisiau yn ei gartref hyd nes i wirfoddolwyr adeiladu ystafell wely ac ymolchi iddo ar lawr gwaelod ei dŷ.

Treuliodd Keith Parry, 70 oed, o Gasnewydd saith mis yn yr ysbyty ar ôl y strôc yn 2021. Dim ond teirgwaith mae wedi gadael ei gartref ers hynny.

Dywedodd ei deulu bod gweithwyr iechyd wedi dechrau cyfeirio ato fel Harry Potter am ei fod yn cysgu ar wely arbenigol oedd wedi ei osod o dan y grisiau yn ei dŷ.

Roedd yn byw a bod yno nes cael cymorth elusen Band of Builder. Fe godon nhw estyniad ar y tŷ gan gynnwys ystafell wely ac ystafell ymolchi fel bod ganddo rywfaint o breifatrwydd.

“Mae Band of Builders wedi newid ein bywydau am byth,” meddai gwraig Keith, Linda.

“Ni fydd ein diolch byth yn ddigon – ac o waelod ein calonnau diolchwn i’r holl wirfoddolwyr a deithiodd o bell ac agos i adeiladu’r estyniad gydag ystafell wely ac ystafell ymolchi i roi ei urddas yn ôl i Keith.

“Mae’r gwaith wedi bod o’r safon uchaf a gobeithio y bydd Band of Builders yn parhau i helpu pobl fel ni.”

Mae ei deulu yn dweud bod angen dau griw ambiwlans a’r gwasanaeth tân i gludo Keith Parry o’i gartref pan mae angen iddo fynd i’r ysbyty am driniaeth.

Image
Keith Parry
Llun gan Band of Builders

‘Cysur’

Roedd 50 o bobol wedi gwirfoddoli fel rhan o’r prosiect tair wythnos o hyd. 

Dywedodd Garry Gregory, o Tarmac Blue Circle, y grŵp oedd yn noddi’r ymdrech: “Rydym yn hynod o falch unwaith eto i gefnogi Band of Builders gyda’u prosiect diweddaraf i Keith.

“Rydym yn gobeithio bod y prosiect hwn wedi dod â rhywfaint o gysur iddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae’r gwaith y mae’r tîm yn ei wneud yn hynod o bwysig i’r diwydiant ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i wella bywydau pobl gyda Band of Builders.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.