Gwasanaethau brys yn ymateb i dân yng nghanol Aberystwyth nos Sul
27/05/2024
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Rodfa'r Gogledd yn Aberystwyth nos Sul wedi i dân gynnau mewn adeilad yno.
Roedd mwg trwchus i'w weld ar y stryd fawr toc ar ôl 9 yr hwyr.
Cafodd sawl brigad dân eu hanfon yno yn ogystal â'r heddlu a pharafeddygon.
A hithau'n benwythnos gŵyl y banc, roedd yr ardal yn brysur gyda nifer mewn tai bwyta a thafarndai gerllaw.
Cafodd y ffordd ei chau am rai oriau.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys yn ystod oriau mân y bore, bod y ffordd wedi ail agor.