Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
26/05/2024
Mae beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar ffordd yr A483 rhwng Llanbister a Llanbadarn Fynydd, y brif ffordd rhwng Llandrindod a’r Drenewydd, am tua 12:45 ddydd Sadwrn.
Dywedodd y llu fod y beic modur KTM oren yn teithio i gyfeiriad y gogledd tuag at Lanbadarn Fynydd pan fuodd mewn gwrthdrawiad gyda char.
Ychwanegodd y llu fod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gan nodi cyfeirnod: DP-20240525-147.