
Arestio dyn ar ôl dod o hyd i ffatri ganabis mewn tafarn wag yn Sir Gâr
Mae’r heddlu wedi arestio un dyn ar ôl dod o hyd i ffatri ganabis mewn tafarn wag yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi mynd i mewn i adeilad tafarn y Mountain Gate gyda warant ar ddydd Mawrth.
Fe ddaethon nhw o hyd i tua 800 o blanhigion canabis yn y dafarn rhwng Tŷ-croes a Rhydaman.

Cafodd un dyn, Beni Mirashi, 26 oed, ei arestio ar amheuaeth o gynhyrchu canabis.
Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli ar 23 Mai a cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar Fehefin 24.
Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai gefnogi swyddogion yn eu hymchwiliad, gofynnir iddynt gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 24*459007.