Newyddion S4C

Haint y llwybr wrinol: Dynes ifanc o Fangor yn byw mewn ‘poen wythnosol’

27/05/2024

Haint y llwybr wrinol: Dynes ifanc o Fangor yn byw mewn ‘poen wythnosol’

Mae dynes ifanc o Fangor yn dweud ei bod yn byw mewn “poen wythnosol” oherwydd cyflwr difrifol sy’n effeithio ar ei llwybr wrinol.

Ers ei harddegau cynnar, mae Non Morris Jones, 25 oed, wedi bod yn dioddef o haint y llwybr wrinol (UTI) sy'n ailgydio.

“Mae’r boen mor ddrwg weithia dw i’n gorfod eistedd ar y toiled am oriau,” meddai Non wrth siarad â Newyddion S4C. “A dw i wedi gwneud am nosweithiau.”

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae haint y llwybr wrinol hirdymor (chronic UTI) yn cael ei achosi gan facteria sy'n mynd i mewn i leinin y bledren.

Gan nad yw profion wrin bob amser yn amlygu'r haint, mae cael diagnosis yn gallu bod yn anodd.

Gall symptomau gynnwys teimlad o losgi wrth basio wrin, awydd cryf i basio wrin yn aml iawn hyd yn oed pan fo ychydig iawn i’w basio, yn ogystal â phoen yn y cefn neu ran isaf yr abdomen - ac fel arfer, nid yw'r symptomau yn ymateb i driniaeth gwrthfiotig.

Yn anffodus, mae Non wedi profi hynny ei hun.

“Dw i’n teimlo bo fi ‘di cymryd gymaint o antibiotics dros y blynyddoedd bo fi ‘di cael imiwnedd iddyn nhw, felly dw i’m yn teimlo bod ddim un antibiotig yn cael gwared â’r boen yn gyfan gwbl,” meddai.

Yn ddiweddar, mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am ymwrthedd gwrthfiotig. 

Ar gyfer achosion o haint y llwybr wrinol, maent yn annog cleifion i gadw’n hydradol ac i gymryd gwrthfiotigau ond pan fo wir angen.

Daw’r ymgyrch yn sgil cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd rhwng 2024 a 2029.

Mae’n rhan o weledigaeth 20 mlynedd gyda llywodraethau eraill y DU i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd erbyn 2040.

‘Dioddef yn dawel’ 

Bydd un o bob dwy fenyw yn dioddef o haint y llwybr wrinol ar ryw bwynt yn eu bywydau.

Ond i Non, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn hyfforddi i fod yn gyfreithwraig, mae’r haint sydd fel arfer yn hawdd i’w drin wedi dinistrio ei bywyd.

“Mae’n effeithio bywyd gwaith a bywyd personol yn ofnadwy,” meddai. “'Da chi methu cario ‘mlaen efo stwff yn arferol.”

Dywedodd bod digwyddiadau cymdeithasol yn heriol iawn gan fod alcohol yn gwaethygu ei symptomau.

Roedd yn rhaid iddi aros adref yn ystod wythnos y glas yn y brifysgol oherwydd hynny.

“Dw i’n cofio bod yn rili upset a meddwl, dw i ‘di colli allan ar wythnos rili pwysig o gyfarfod pobl newydd, pobl dw i am dreulio’r tair blynedd nesaf efo,” meddai.

“Mae ‘na gymaint o adegau lle dw i ‘di methu digwyddiadau pwysig yn fy mywyd.”

Image
Non Morris Jones
Mae Non wedi bod yn dioddef o haint y llwybr wrinol hirdymor ers ei harddegau cynnar

Ychwanegodd Non ei bod wedi “diodde'n dawel” o'r cyflwr - yn enwedig mewn cyfnod pan roedd wedi effeithio ei bywyd rhywiol.

“Mae o ‘di effeithio perthynas hirdymor yn y gorffennol lle o’n i’n teimlo bod libido fi’n hollol isel,” meddai. 

“Natho effeithio bywyd rhywiol fi’n gyfan gwbl, do’n i ddim isho rhyw, o’dd o’n brifo.”

Yn sgil y boen, mae Non wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen at ei meddyg teulu am flynyddoedd.

Ond mae hi'n parhau i chwilio am atebion.

“Dw i’n cofio mynd at y doctor unwaith a nath y doctor ddeud, ‘O, Miss Jones, ‘da chi’n ôl eto, dyma antibiotig rhif 31 neu be bynnag, a bo’ fi ‘di mynd trwy bob un antibiotig,” meddai. 

“Felly, dw i’n gweld o’n anffodus rili bo na’m un doctor ‘di meddwl, be am gael stop ar yr antibiotigs ma, dydyn nhw’n amlwg ddim yn gweithio. Be’ am wneud ymchwil iawn i weld be ‘di craidd y broblem.’ Ond dw i’m di cael hynna.”

‘Angen ymchwil a chanllawiau meddygol’

Yn ôl y meddyg teulu Dr Gwilym Pritchard, mae trin achosion hirdymor o’r haint yn heriol gan fod yna ddiffyg gwybodaeth.

“Mae 'na dipyn o ddadlau ‘di bod os ydi o’n phenomenon ai peidio,” meddai. 

“Ond dw i’n meddwl erbyn hyn bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn ei fod o, ac yn sicr mae o ar wefan y Gwasanaeth Iechyd erbyn hyn.”

Er hynny, nid oes canllawiau cenedlaethol ar gyfer haint y llwybr wrinol hirdymor yn benodol.

Ac mae hynny o bwys, oherwydd yn wahanol i haint y llwybr wrinol un tro, nid yw’r haint yn clirio.

“Mae’r bacteria yn parhau, boed o mewn stad dormant sydd yn creu chwydd a llid o fewn urothelium lining y bledren a bob hyn a hyn yn ail-gyna," meddai.

Image
Non Morris Jones
Yn ôl Non, nid yw gwrthfiotigau'n llwyddo i gael gwared â'r haint yn gyfan gwbl

Ar hyn o bryd, dywedodd Dr Pritchard bod meddygon yn cael eu cynghori i wneud yn siŵr bod claf sy’n dioddef o’r haint yn yfed digon o ddŵr.

Y bwriad yw gwneud yr wrin yn fwy alcali er mwyn golchi'r haint allan, ac osgoi defnyddio gwrthfiotigau oni bai bod wir angen, meddai.

“Mae hynna’n ofnadwy o bwysig achos mae antibiotigs yn mynd yn llai effeithiol i’r claf,” meddai. 

“Felly mae o’n falans rhwng rhoi triniaeth - tri diwrnod o antibiotigs, weithiau mwy - yn enwedig os ydy o fyny’r llwybr neu mae ‘na dwymyn neu arwyddion o sepsis.

“Ond y ddadl wedyn sydd gan y rhai sy’n dioddef o’r llid cronig ydy y dyla nhw fod wedi cael eu trin yn fwy aggressive am y symptomau cyntaf fel nad ydy’r bacteria yn ymblannu i mewn i’r urothelium ac yn mynd yn cronig.”

Yr ateb, meddai Dr Pritchard, yw cael rhagor o ymchwil i’r haint hirdymor er mwyn datblygu canllawiau cenedlaethol.

“Mae hyn ‘di digwydd efo’r prosdad achos mae llid y prosdad yn gallu bod yn aciwt a phara am flynyddoedd,” meddai. 

“Ac mewn unrhyw sefyllfa fiolegol ble mae bioffilm [haenau o ficro-organebau sy'n glynu at arwynebau gwlyb] yn ffurfio - boed yn y bledren, neu ar ddannedd - mae’n anodd i wrthfiotigau dreiddio’r bioffilm a’i drin o. 

“Yn y pendraw, ella fydd ‘na driniaeth fydd yn treiddio hwnnw er mwyn gwneud i’r antibiotig weithio wedyn - ond ‘da ni ddim yna eto.”

Ychwanegodd Dr Pritchard ei bod hi'n bwysig bod cleifion yn cysylltu â meddyg teulu er mwyn cael diagnosis swyddogol cyn ymgymryd ag unrhyw driniaeth.

Siarad am symptomau

Mae Non yn cytuno bod angen gwell dealltwriaeth o’r haint yn yr hirdymor.

Fel rhan o’r ateb, mae hi’n galw ar ferched eraill sy’n dioddef o’r cyflwr i siarad â’i gilydd.

“Un peth dw i’n difaru ydi ddim siarad â merched eraill sy’n diodda o’r cyflwr,” meddai. 

“Lle fyswn i wedi cydnabod y symptomau, a bod libido isel yn symptom - bod o’n brifo, bo fi’n teimlo’n tense pan o’n i’n cael rhyw.

“Achos o'n i’n meddwl ‘na problam fi oedd o, o' n i’n meddwl bod ‘na wbath yn bod efo fi.”

Dywedodd Non fod ei diffyg gwybodaeth am symptomau’r cyflwr wedi gwneud iddi “gwestiynu lot o bethau” yn ei pherthynas ar y pryd.

“Dw i’n teimlo os fyswn i ‘di gwybod mwy ar y pryd bod o’n symptom, ac yn wbath sy’n cael gymaint â hynna o effaith arna chi, fyswn i ‘di gallu bod yn fwy agored i’n gilydd am y peth a ‘di gallu gweithio drwyddo fo,” meddai.

Ychwanegodd: “Dw i’n meddwl bod merched angen bod lot fwy agored yn sôn amdano fo, yn sôn am symptmoau, sut mae’n gwneud i chi deimlo. 

“A dw i’n meddwl efo’n gilydd ‘sa ni’n gallu dod fyny efo ryw fath o gymorth i gefnogi’n gilydd.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae canllawiau eisoes ar gael gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar ddiagnosis a rheoli heintiau llwybr wrinol, gan gynnwys mater ymwrthedd gwrth-ficrobaidd. 

“Disgwyliwn i fyrddau iechyd yng Nghymru ystyried y canllawiau hyn wrth ddarparu gofal.

 Rydym hefyd wedi cyflwyno cynllun cenedlaethol i leihau marwolaethau sy'n cael eu hachosi gan heintiau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.