Ymgais i ddwyn ceblau rheilffordd yn effeithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru
Mae ymgais i ddwyn ceblau signalau rheilffordd wedi effeithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru ar drothwy penwythnos gŵyl y banc.
Mae’r problemau ddydd Gwener yn golygu mai dim ond rhai trenau sy’n rhedeg oherwydd bod rhaid iddyn nhw fynd yn arafach.
Dywedodd National Rail y bydd yn rhaid newid trenau neu ddefnyddio gwasanaeth yn lle trên rhwng gorsafoedd Birmingham New Street a Wolverhampton.
Bydd hyn yn effeithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru o Birmingham International sy'n teithio i Aberystwyth a Chaergybi.
Mae’r problemau hefyd yn effeithio ar deithwyr Avanti West Coast, CrossCountry, London Northwestern Railway, a West Midlands Railway.
“Bydd trenau o’r Amwythig i Birmingham New Street/Birmingham International yn dod i ben yn Wolverhampton,” meddai National Rail.
“Bydd trenau i’r Amwythig / Aberystwyth / Caer / Gogledd Cymru yn cychwyn yn Wolverhampton.”
Bydd modd i deithwyr Trafnidiaeth Cymru ddefnyddio trenau Avanti West Coast, CrossCountry, London Northwestern Railway, West Midlands Railway heb unrhyw gost ychwanegol.
Mae disgwyl i'r problemau barhau am weddill y dydd.