Y cap ar bris ynni i ostwng 7% o fis Gorffennaf
Y cap ar bris ynni i ostwng 7% o fis Gorffennaf
Mae rheoleiddiwr y diwydiant ynni, Ofgem, wedi cyhoeddi bod y cap ar bris nwy a thrydan ar gyfer cartrefi yn gostwng 7% o fis Gorffennaf ymlaen.
Cyhoeddodd Ofgem ei fod yn gollwng yr uchafswm y mae modd ei godi ar uned o ynni i aelwydydd o’r £1,690 presennol ar gyfer cartrefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i £1,568 - sef gostyngiad o £122 dros gyfnod o flwyddyn.
Mae hyn tua £500 yn llai na’r cap ym mis Gorffennaf y llynedd, pan oedd yn £2,074.
Dywedodd prif weithredwr Cyngor ar Bopeth, y Fonesig Clare Moriarty: “Bydd newyddion heddiw yn rhoi cysur bach i gartrefi sy’n dal i wynebu pwysau costau byw.
“Mae’r gostyngiad yn y cap ar brisiau ynni yn lleihau biliau ychydig, ond mae ein data yn dweud wrthym fod miliynau wedi disgyn i ddyled neu’n methu â thalu eu costau hanfodol bob mis.
“Ni all pobl ddibynnu ar brisiau ynni is yn unig i ddianc rhag y problemau ariannol y maent wedi bod yn eu profi.
“Dyna pam mae angen cymorth at filiau ynni wedi’i dargedu’n well ar gyfer y rhai sy’n ei chael hi’n anodd iawn cadw’r golau ymlaen neu goginio pryd poeth."
Mae disgwyl y bydd prisiau ynni'n rhan ganolog o'r dadlau ymysg y pleidiau yn yr etholiad cyffredinol.