Cyngor Môn yn pleidleisio o blaid cau ysgol leiaf yr ynys
Mae aelodau o Bwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi pleidleisio o blaid cau ysgol leiaf y sir.
Ysgol Carreglefn ydy'r ysgol gynradd sydd â'r costau uchaf fesul disgybl yng Nghymru gyfan, sef £17,200 y disgybl.
Mae gan yr ysgol 80% o leoedd gwag, gyda naw disgybl yn unig yno, a phedwar ohonynt ym mlwyddyn 6.
Yn ôl rhagolygon yr ysgol, byddai pump neu lai o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol o fis Medi ymlaen.
Bydd disgyblion yr ysgol yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell ym mis Medi.
Ar hyn o bryd, mae holl ddisgyblion Ysgol Carreglefn yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth, gan olygu bod disgyblion rhwng pedwar ac 11 oed yn cael eu haddysgu gyda'i gilydd.
Dywed y cyngor fod hyn yn "heriol o ran cwrdd ag anghenion disgyblion o wahanol oedran."
Wrth gau Ysgol Carreglefn mae'r cyngor yn dweud y byddai hyn yn gallu "lleihau lleoedd gwag yn Ysgol Llanfechell" a gostwng y gost fesul disgybl ar yr ynys.
Yn ôl amcangyfrifon y cyngor, gallai'r cynnig greu arbedion refeniw o £126,000 y flwyddyn.