Apêl gan fam wedi i'w mab 20 oed ddiflannu yn Afon Gwy
Mae mam i ddyn ifanc a syrthiodd i mewn i Afon Gwy nos Lun yn apelio ar y cyhoedd am wybodaeth i helpu i ddod o hyd i'w mab.
Cafodd yr heddlu eu galw am 18.35 nos Lun yn dilyn adroddiad bod Jake Jones, 20 oed o Sedbury yng Nghas-gwent wedi mynd i mewn i’r afon.
Ymunodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys gwylwyr y glannau a Chymdeithas Achub Ardal Hafren yn y gwaith o chwilio am Jake, ac mae'r gwaith wedi parhau gan swyddogion ar droed ac yn y dŵr dros y dyddiau diwethaf.
Gan apelio at y rhai sydd efallai â gwybodaeth, dywedodd mam Jake, Louise Jones: '"Fel teulu hoffem gadarnhau bod Jake Jones, 20 oed ac o Sedbury ar goll ar hyn o bryd.
"Cafodd Jake ei weld ddiwethaf yn Afon Gwy ddydd Llun o gwmpas 18:00.
"Yn anffodus nid yw Jake wedi cael ei ddarganfod hyd yma. Rydym wedi'n dryllio ac yn dorcalonnus ac rydym yn gofyn i bawb edrych allan a chadw golwg am ein bachgen.
"Hoffem ddiolch i'r holl wasanaethau brys am eu cefnogaeth barhaus."
Hoffai swyddogion yr heddlu glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 17:00 a 18:30 ddydd Llun ac a allai fod â gwybodaeth am y dyn ifanc.
Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd ar gwch neu a welodd gwch yn yr ardal dan sylw yn ystod y cyfnod hwn.