Rishi Sunak yn ymweld â Chymru ar ddechrau'r ymgyrchu etholiadol
Rishi Sunak yn ymweld â Chymru ar ddechrau'r ymgyrchu etholiadol
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi ymweld â bragdy yn ne Cymru ar ddechrau cyfnod o ymgyrchu brwd, wedi iddo alw etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.
Mewn cyhoeddiad annisgwyl y tu allan i Rif 10 ddydd Mercher, dywedodd y prif weinidog mai "rŵan ydi'r amser i Brydain ddewis ei dyfodol" gan ddweud y gallai pobl ymddiried yn ei blaid i arwain y wlad mewn cyfnod o ansefydlogrwydd rhyngwladol.
Gyda chwe wythnos tan yr etholiad, fe wnaeth Mr Sunak ymweld â bragdy Bro Morgannwg yn y Barri, yng nghwmni Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies a’r AS Ceidwadol ar gyfer Bro Morgannwg, Alun Cairns.
Cafodd y Prif Weinidog arddangosiad o’r broses fragu, gan ddweud wrth staff eu “bod yn rhan o ddiwydiant rydym yn awyddus i’w gefnogi”, gan grybwyll “gwarant tafarndai Brexit” a chefnogaeth gyda threthi busnes.
Fe ofynnodd Mr Sunak wrth weithwyr os yr oeddent yn edrych ymlaen at bencampwriaeth pêl-droed Euro 2024 dros yr haf fel ffordd o greu refeniw ychwanegol, er gwaethaf y ffaith nad oedd Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y gystadleuaeth.
Dyma oedd yr ail gymal o’i wibdaith ar gychwyn y cyfnod ymgyrchu, wedi iddo ymweld â chanolfan ddosbarthu yn Ilkeston yn Sir Derby.
Bydd yn teithio i’r Alban yn ddiweddarach ddydd Iau.
Pryderon
Mae etholiad ym mis Gorffennaf yn gynharach na'r disgwyl, gyda nifer yn credu y byddai'n cael ei gynnal ym mis Hydref neu Tachwedd.
Mewn cyhoeddiad annisgwyl y tu allan i Rif 10 ddydd Mercher, dywedodd y prif weinidog mai "rwan ydi'r amser i Brydain ddewis ei dyfodol" gan ddweud y gallai pobl ymddiried yn ei blaid i arwain y wlad mewn cyfnod o ansefydlogrwydd rhyngwladol.
Mae rhai ASau Ceidwadol wedi mynegi eu pryderon yn gyhoeddus, a hynny o ystyried fod Llafur 20 pwynt ar y blaen yn yr arolygon barn ar hyn o bryd.
Dywedodd yr AS Ceidwadol Tracey Crouch:"Ro'n i wedi disgwyl etholiad yn yr hydref, ac mae gen i dal faterion pwysig eisiau eu codi ar ran fy etholwyr rhwng rwan a'r cyfnod hynny."
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion ddydd Mercher bod cyfradd chwyddiant wedi gostwng i 2.3% ym mis Ebrill, arwydd meddai Llywodraeth y DU bod yr economi wedi “troi cornel”.
Fe wnaeth y prif weinidog ganolbwyntio ar yr economi fel un o brif elfennau'r etholiad yn ei araith ddydd Mercher, gan ddweud fod y ffigyrau chwyddiant yn "profi fod fy nghynllun a fy mlaenoriaethau i yn gweithio."
Soniodd hefyd am ymosodiad milwrol Rwsia ar Wcráin, y tensiynau yn y Dwyrain Canol yn ymwneud â'r gwrthdaro rhwng Israel a Hamas, a'r bygythiad gan Tsieina.
'Brwydro bob dydd'
Nos Fercher, awgrymodd Mr Sunak bod Llafur yn ymddwyn fel pe baen nhw eisoes wedi ennill yr etholiad.
"Mae Llafur eisiau i chi feddwl fod yr etholiad yma drosodd cyn iddo hyd yn oed ddechrau," meddai.
"Ond rydym ni'n mynd i frwydro pob dydd am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth ac mae pobl Prydain yn mynd i ddangos i Lafur nad ydyn nhw'n hoffi pobl yn eu cymryd yn ganiataol."
Ond dywedodd arweinydd y blaid Lafur Syr Keir Starmer: "Os ydyn nhw'n cael pum mlynedd arall, byddant yn teimlo bod ganddynt hawl i barhau yn union fel ag y maen nhw rwan. Ni fydd unrhyw beth yn newid."
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi dweud eu bod nhw'n "barod i fynd â’r frwydr hon i bleidiau Llundain".
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo "pencampwr lleol cryf" i'r rheini sy'n pleidleisio drostyn nhw.
Mae angen i Lafur sicrhau gogwydd o 12.5 pwynt canran i ennill mwyafrif o un yn unig, ond mae rhai yn credu y gallai Syr Keir Starmer a'i blaid hawlio hyd at 400 sedd.
Wrth gael ei gyfweld fore Iau, dywedodd Rishi Sunak na fyddai unrhyw hediad er mwyn anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn digwydd cyn yr etholiad.
Dywedodd yn hytrach y byddai'r hediadau yn digwydd ym mis Gorffennaf ar yr amod fod y Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol.