Y cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw'n 82 oed
Mae'r cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw'n 82 oed.
Roedd hi'n un o gynhyrchwyr teledu annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru am fwy na 30 mlynedd.
Roedd hi hefyd yn gyfrifol am hybu a meithrin talent llu o bobl yn y diwydiant teledu yn ystod ei gyrfa hir a llwyddiannus.
Pan ddaeth S4C i fodolaeth ym 1982, fe sefydlodd Gwenda Griffith ei chwmni cynhyrchu Fflic, ac fe aeth o nerth i nerth.
Cynhyrchodd y cwmni raglenni poblogaidd i blant, dysgwyr a rhaglenni ffordd o fyw ar gyfer cynulleidfa eang.
Roedd ei chyfresi poblogaidd yn cynnwys Y Tŷ Cymreig, 04 Wal, Y Llys, Cariad @ Iaith, a Hwb ar gyfer dysgwyr.
Wedi ei magu yng Nghorwen, aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala cyn graddio'n ddiweddarach o'r coleg ger y lli yn Aberystwyth.
Cyfrannodd at ddau lyfr a gyhoeddwyd i gyd-fynd â'i chyfres ar bensaernïaeth Gymreig a chartrefi Cymreig.
Yn 2002 derbyniodd wobr Cymraes y Flwyddyn yn y Cyfryngau.
Yn 2012 fe ddaeth yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru, a hynny mewn cydnabyddiaeth am ei gwaith yn codi proffil pensaernïaeth Gymreig.
Roedd Gwenda Griffith wedi bod yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ers Tachwedd 2014 ac roedd wedi bod ar fyrddau nifer o sefydliadau Cymreig dros y blynyddoedd gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C:
“Gyda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth Gwenda Griffith. Roedd yn un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
“Wedi sefydlu cwmni Fflic, gosododd stamp a steil unigryw ei hun ar y sianel gan gynhyrchu cyfresi tai poblogaidd 04 Wal ac Y Tŷ Cymreig, a oedd yn adlewyrchu ei hangerdd am bensaernïaeth a chyfresi yn annog dysgwyr Cymraeg, fel Cariad@iaith.
“Roedd ei thalent yn amhrisiadwy ac mi fydd colled fawr ar ei hôl. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gwenda, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad arbennig at waith S4C a dros ein gwylwyr dros nifer fawr o flynyddoedd."
Llun: Nant Gwrtheyrn