Newyddion S4C

Cymeriadau lliwgar prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd

20/05/2024

Cymeriadau lliwgar prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd

Bydd cymeriadau lliwgar a gafodd eu cyflwyno i brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd y llynedd yn dychwelyd eto eleni.

Roedd ymateb cymysg i’r cymeriadau pan gaethon nhw eu cyflwyno yn yr Eisteddfod yn Llanymddyfri'r llynedd.

Roedd rhai ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag ar y maes ei hun yn dweud eu bod yn dangos diffyg parch tuag at yr enillwyr.

Ond a hithau yn rôl Cyfarwyddwr yr Urdd am y tro cyntaf eleni, fe gadarnhaodd Llio Maddocks wrth Newyddion S4C y byddai’r Awenau yn dychwelyd i brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn.

“’Dyn ni wedi gwneud ambell i newid iddyn nhw, ond mi fydd y cymeriadau yn ôl,” meddai. 

Parch sydd wrth wraidd y penderfyniad i gadw’r Awenau yn rhan o’r prif seremonïau, meddai Llio Maddocks, gan mai plant a phobl ifanc a wnaeth eu creu.

Dywedodd hefyd bod ’na “le i arbrofi” a phetai i’r Orsedd cael eu sefydlu yn ystod yr oes fodern byddai “pawb yn meddwl bod nhw’n hurt.”

“Dwi’n meddwl bod e’n bwysig iawn bod ni’n parchu gwaith bobl ifanc, mai pobl ifanc ‘nath greu'r Awenau a’r seremonïau, a bod ni’n sicrhau bod ni’n rhoi trust yn eu llais nhw," meddai.

“Gŵyl i blant a phobl ifanc ydy Eisteddfod yr Urdd ac felly ‘dyn ni am sicrhau bod ni yn rhoi platfform i’r gwaith ‘na wedyn yn ystod yr wythnos.”

'Yma i'r bobl ifanc ydan ni'

Mae Llio Maddocks yn annog pobl i “gadw llygad” ar y prif seremonïau eleni er mwyn gweld pa fath o newidiadau sydd wedi cael eu gwneud iddynt.

Fe gafodd y chwe Awen eu cyflwyno ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri mis Mai diwethaf, a’r nod oedd i bob seremoni gynrychioli un ohonynt. 

Yn ystod y prif seremonïau, roedd Awen benodol yn dod yn fyw mewn ffurf cymeriad o chwedl Taliesin gan dywys y beirniaid i’r llwyfan i’w traddodi.

Roedd yr enillwyr wedyn yn cael eu gwahodd i gamu i’r golau wrth i olau ddisgleirio ar ganol y llawr, cyn cael eu cyfarch gan Awen.

Dywedodd Ms Maddocks ei fod yn bwysig cofio “mai yma i’r bobl ifanc ydan ni” a’u bod nhw wedi mwynhau rôl yr Awenau yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd.

“O fod ar y maes llynedd ‘odd yr holl blant a phobl ifanc yn mwynhau’r seremonïau ac yn mwynhau y cymeriadau,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.