Cyn-Arlywydd De Affrica wedi'i ddedfrydu i garchar

Jacob Zuma
Mae cyn-Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma, wedi'i ddedfrydu i gyfnod o 15 mis yn y carchar am ddirmyg llys.
Ni ymddangosodd Zuma, 79, mewn ymchwiliad i lygredd dan arweiniad Dirprwy Uwch Gyfiawnder Raymond Zozo fis Chwefror.
Wedi hynny, fe aeth cyfreithwyr yr ymchwiliad at y llys i geisio gorchymyn i'w garcharu.
Mae'r cyn-arlywydd wedi ei gyhuddo o alluogi ysbeilio coffrau'r wladwriaeth yn ystod naw mlynedd wrth y llyw, yn ôl Al Jazeera.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.
Llun: GovernmentZA (drwy Flickr)