Newyddion S4C

Sir Benfro: Arestio pedwar dyn ar amheuaeth o dreisio

16/05/2024
Llanusyllt

Mae pedwar dyn wedi eu harestio yn Sir Benfro ar amheuaeth o dreisio.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n ymchwilio i gyhuddiad o dreisio ac ymosodiad rhywiol yn Llanusyllt (Saundersfoot) ar 11 Mai.

Cafodd dynion 22, 21, 20 ac 19 eu harestio ar amheuaeth o dreisio. Maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i’r ymchwiliadau barhau.

“Mae’r dioddefwr yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol,” meddai’r heddlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.