Newyddion S4C

'Gweithred yw Gobaith': Cyhoeddi ffilm Neges Heddwch yr Urdd

17/05/2024
Criw Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi creu ffilm yn galw ar bobl ledled y byd i barhau i weithredu dros heddwch fel rhan o’i draddodiad blynyddol o rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da. 

Cafodd y neges 'Gweithred yw Gobaith' ei hysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24, a gafodd ei harwyddo gan bron i 400,000 o fenywod.

Fel rhan o’i draddodiad 102-mlynedd oed, bydd yr Urdd yn rhannu ei neges ar ffurf ffilm fer sydd wedi ei chreu eleni gan yr animeiddwraig Efa Blosse-Mason.

Mae'r neges yn datgan mai “her canrif newydd” yw’r “angen i barhau i weithredu dros heddwch, a rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais”.

Yn gyfrifol am y neges oedd merched sy’n fyfyrwyr ar gyrsiau ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro sydd wedi symud i Gymru a gwneud Cymru yn gartref newydd, ynghyd â rhai o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr benywaidd yr Urdd.

Profiadau o heddwch

Dywedodd Shatw Ali, un o’r bobl ifanc a gyfrannodd at y neges: “Mae heddwch yn golygu nad oes rhaid i rieni boeni am sut i fwydo eu plant. Lle gall plant wylio tân gwyllt yn lle gwylio bomiau'n disgyn o’r awyr. 

“Efallai ei fod yn ymddangos yn amhosib dod o hyd i le felly ar y blaned yma, ond os edrychwch chi’n ofalus fe ddewch chi o hyd iddo, yn union fel y dois i o hyd i Gymru. Gwlad, gwerddon o dawelwch yng nghanol y byd anhrefnus.”

Yn ystod gweithdai o dan Casi Wyn, arweiniad cyfarwyddwr creadigol y neges, bu’r merched yn sôn am eu profiadau o heddwch – a’r diffyg heddwch ym mywydau blaenorol ambell un, gan gynnwys y rheiny sy’n hanu o Afghanistan, Sudan, Somalia a Bangladesh.

Ychwanegodd Ms Ali: “Fe wnaeth y gweithdy i mi sylweddoli bod cymaint mwy o bobl yn chwilio’n daer am heddwch ac yng nghalon pawb mae yna ran sydd eisiau profi heddwch o leiaf unwaith yn eu hoes dim ots beth yw eu hil, oedran, rhywedd neu gefndir.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething, ei fod yn “hynod falch” o gefnogi neges heddwch ac ewyllys da’r Urdd.

“Mae’r neges yn adlewyrchiad o uchelgeisiau pobl ifanc Cymru ac yn alwad i arweinwyr y byd i weithredu, gyda’r nod i anelu at ddyfodol gwell i bob un ohonom," meddai.

“Yn fwy nag erioed, rwy’n annog pawb i ymgysylltu â’r neges a helpu i sicrhau bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed ledled y byd.” 

Bydd geiriau ‘Gweithred yw Gobaith' ar gael mewn 65 iaith er mwyn “cryfhau neges ieuenctid Cymru ledled y byd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.