Newyddion S4C

'Nath bywyd fi stopio mewn eiliad': Cynrychioli Cymru ar ôl diagnosis o ganser

Newyddion S4C 16/05/2024

'Nath bywyd fi stopio mewn eiliad': Cynrychioli Cymru ar ôl diagnosis o ganser

“Mae’n swno’n rhyfedd, ond mae cael cansyr wedi bod yn achubiaeth i fi.”

Mae Laura Butcher o Borthcawl yn athletwraig frwd. Mae’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth triathlon - yn nofio, yn beicio ac yn rhedeg.  Mae newydd gael gwbod y bydd hi’n cael cyfle i gynrychioli Cymru, a thîm GB dros y misoedd nesa.

Ond rai blynyddoedd yn ôl, roedd hyn yn teimlo fel breuddwyd amhosib.

“Awst 2020 odd e, es i mas triathlon training, a nes i gwmpo off y beic, a torri collarbone fi. Es i i’r ysbyty, neitho nhw rhoi fi ar medication am nerve damage i’r collarbone a nes i ffeindio bo fi methu mynd i’r tŷ bach. Dyna sut ddechreuodd pethe.”

Cafodd Mam Laura ddiagnosis o gansyr y coluddyn yn 2010 ac roedd hi’n ymwybodol  iawn felly o’r symptomau.

“Es i nôl at y doctor a gofyn am brawf gwaed, ar ôl sylwi bo fi’n gwaedu wrth fynd i’r tŷ bach," meddai.

"Ges i fy anfon am fwy o brofion, a ie, yn y diwedd, dyma nhw’n dweud wrtho fi ‘I’m really sorry Laura you’ve got rectal cancer.’ Nath bywyd fi stopio mewn eiliad.

“O'n i wedi mynd mewn i sioc am tua tri diwrnod. Yn fuan wedyn, yn mis Awst 2021 nes i ddechre IVF i arbed wyau fi, achos o’n i’n sengl ac odd dim plant gyda fi, a wedyn nes i ddechre radiotherapy am 5 diwrnod ym mis Tachwedd, a syth ar ôl hynny nes i ddechre chemotherapy. 6 cycle nath bara tua 5 mis.”

'Extreme'

Gwneud ymarfer corff fyddai’r peth ola’ ar feddyliau nifer o bobl ar ôl cael diagnosis o’r fath, ond roedd Laura’n benderfynol o barhau i hyfforddi.

“Fi’n stwbwrn! O'n i angen rhywbeth i gadw fi fynd. O'n i ddim isie jyst eistedd yn y ty yn meddwl am y cansyr a beth oedd yn mynd i ddigwydd, os o'n i’n mynd i farw.”

Dechreuodd Laura hyfforddi am oriau, 7 diwrnod yr wythnos. Doedd dim modd iddi gystadlu tra’n cael triniaeth, ond pan orffennodd y driniaeth, fe aeth hi ati’n syth i gystadlu.

"Nes i hanner iron man yn Abertawe, nes i Aquathon chwech diwrnod wedyn, sef nofio a wedyn rhedeg, a nes i qualifio i fod yn rhan o Dîm Tri Cymru. Nes i gystadleuaeth aquabike wedyn, sef triathalon heb y rhedeg a nes i qualifio am tîm GB.

“Yn y space o 8-9 mis o'n i 'di mynd o heb neud unrhyw ras triathalon i qualifio am tim Cymru a tim GB. O’n i’n cymryd e i’r extreme ond o'n i angen ffocws ar ôl cael y diagnosis.”

'Cyfnod tywyll'

Mae profiad pawb o gansyr yn wahanol ond mae Laura’n edrych ar y profiad fel un positif

“Mae’n swno’n rhyfedd, ond mae cael cansyr wedi bod yn achubiaeth i fi, odd e’n make or break i fi. Dwi weithie’n dweud o’n i angen y cansyr, o’n i angen rhywbeth i pwsho fi.

"Nath y cansyr helpu fi i sylweddoli be o’n i moyn neud yn fy mywyd i. Triathlon oedd hwnna, nath e safio fi. O'n i ddim yn sylweddoli pa mor resilient o’n i tan i fi gael cansyr. Dwi ‘di llwyddo i droi cyfnod tywyll iawn yn rhywbeth positif nawr.”

Mae Laura’n dal i gael problemau gyda’i stumog a’i choluddyn, ond ym mis Gorffennaf mi fydd hi’n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth Aquathon Prydain i athletwyr amatur.

Yn yr Hydref wedyn, fe fydd hi’n cynrychioli tim Prydain ym mhencampwriaeth triathlon y byd i athletwyr amatur rhwng pedwar deg a phedwar deg pedwar oed.

“Dwi dal yn cael lot o broblemau efo stumog a bowels fi, ond dwi’n trio edrych i’r dyfodol yn bositif. 

"Bydd e’n dda i gwisgo siwt triathlon gyda big red dragon arno fe, bydd hwnna’n rili cŵl. Mae’r world championships yn mynd i fod yn once in a lifetime opportunity. Dwi’n edrych ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.