Newyddion S4C

Penrhyndeudraeth: Dau berson yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad

16/05/2024
Y ffordd

Mae dau berson yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad beic modur a char rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog ddydd Mercher. 

Ychydig cyn 19:00 roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi ymateb i adroddiad o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd a oedd wedi digwydd ar yr A487.

Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur BMW coch a gwyn oedd yn teithio i gyfeiriad Penrhyndeudraeth, a Mitsubishi Outlander gwyn oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Cafodd y dyn oedd yn teithio ar y beic modur a dynes oedd yn teithio yn y car eu cludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol. 

Cludwyd y dyn mewn ambiwlans a chafodd y fenyw ei chludo mewn hofrennydd yr Ambiwlans Awyr.

Mae’r Rhingyll Emlyn Hughes o’r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion.

“Digwyddodd y gwrthdrawiad mewn ardal sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel Laundry Cottage ac rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A487 ychydig cyn 19:00, sydd o bosib â lluniau camera cerbyd, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl," meddai.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni.”

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000442623.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.