Heddlu yn apelio wedi 'trosedd gasineb' ym Mhwllheli
14/05/2024
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi eu bod yn ymchwilio i drosedd gasineb ym Mhwllheli, Gwynedd.
Mae'r heddlu yn credu i'r drosedd honedig gael ei chyflawni rhwng 09:00 a 10:00 ar 2 Mai yn ardal y Maes yn y dref.
Mae'r llu yn annog unrhyw un a welodd unrhyw beth neu a all helpu gyda'u hymchwiliad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 24000402099.