Newyddion S4C

AS yn galw ar Lywodraeth y DU i redeg Carchar y Parc yn sgil pryderon am farwolaethau

14/05/2024
HMP Parc

Mae Aelod Seneddol Cymreig wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd yr awenau oddi wrth gwmni preifat sy'n rhedeg carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Daw'r alwad i ddisodli G4S gan Beth Winter, sef AS Llafur dros Gwm Cynon, wedi i naw person farw yng Ngharchar y Parc ers diwedd mis Chwefror.

Hyd yma mae pedair marwolaeth yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, yn ogystal ag un arall o bosibl.

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder, Edward Argar, yn dadlau fod cytundeb G4S “yn parhau i berfformio’n dda” er ei fod yn cydnabod bod “mwy i’w wneud”.

Mae G4S wedi rheoli Carchar y Parc ers iddo agor yn 1997, ac fe dderbyniodd gytundeb 10 mlynedd i barhau i weithredu yn 2022.

Cyffuriau 

Dywedodd Ms Winter wrth Dŷ'r Cyffredin: “Mae adroddiad diweddaraf yr arolygiaeth carchardai i Garchar Parc yn 2022 wedi canfod fod gan bron i hanner y carcharorion fynediad hawdd at gyffuriau, ac mae ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Materion Cymreig i garchardai hefyd wedi derbyn tystiolaeth ynglŷn â defnydd o gyffuriau, yn ogystal â’r ffaith bod y Parc yn brin o staff a’r staff yn ddibrofiad.”

Fe wnaeth Ms Winter dynnu sylw at y dystiolaeth hon, yn ogystal â'r marwolaethau diweddar, a’r lefelau trais sydd wedi eu cofnodi yn y carchar.

Gofynnodd: “A fyddai’r gweinidog yn croesawu arolygiad newydd o’r Parc gan y prif arolygydd?

“Ac o ystyried cost y cytundeb o £400 miliwn i G4S i redeg y carchar, a yw wedi ystyried i’r gwasanaeth carchardai gamu i’r adwy i’w reoli fel y mae wedi’i wneud gyda charchar Birmingham?”

Dywedodd Mr Argar fod sganwyr corff pelydr-X a dyfeisiau llaw ymhlith y mesurau sy'n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â chyffuriau yng Ngharchar Parc.

“Mater i brif arolygydd carchardai yw unrhyw arolygiad," meddai.

Mwy i'w wneud 

“O ran perfformiad cyffredinol Parc, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cofio, er bod heriau yr aethpwyd i’r afael â nhw yn y cwestiwn brys (yn Nhŷ'r Cyffredin) ddoe, mae'r Parc yn garchar sy'n cael ei raddio fel un sy'n perfformio'n dda ac yn gytundeb sy'n perfformio'n dda.

“Rwy’n meddwl yn arolygiad 2022 iddo gael un mesur o ‘dda’ a thri o ‘rhesymol dda’. Mae mwy i’w wneud a byddwn yn parhau i weithio gyda’r carchar ond mae’r cytundeb yn parhau i berfformio’n dda.”

Ym mis Mawrth, dywedodd Heddlu De Cymru na allent gadarnhau bod y pedair marwolaeth yn ymwneud â chyffuriau yn gysylltiedig ag unrhyw gyffur penodol.

Ychwanegodd fod proses llwybr cyflym wedi nodi presenoldeb sylweddau sy'n seiliedig ar Nitazene mewn cysylltiad â'r pedair marwolaeth. 

Roedd Spice wedi'i nodi mewn dwy o'r pedair marwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.