Newyddion S4C

Senedd Ynys Manaw i drafod mesur cymorth i farw

14/05/2024
Dignity in Dying, Ynys Manaw

Fe allai hawl unigolion difrifol wael i gael help i farw fod gam yn nes ar Ynys Manaw wrth i senedd yr ynys bleidleisio ar y mater ddydd Mawrth.

Bydd aelodau yn trafod os gall person rhoi cyffuriau marwol i'w hunain neu gael help i'w cymryd gan ddoctoriaid.

Fe allai Ynys Manaw fod y lle cyntaf yn Ynysoedd Prydain i basio deddfwriaeth cymorth i farw.

Os bydd cydsyniad brenhinol yn cael ei rhoi fe allai'r person cyntaf gael help i farw erbyn 2027.

Mae disgwyl i Jersey, sydd hefyd yn rhan o'r frenhiniaeth, i bleidleisio ar gynigion wythnos nesaf. Ond dyw Jersey ddim wedi cyflwyno unrhyw fesur eto.

Mae'r ddwy ynys yn gosod eu cyfreithiau eu hunain. 

Ddydd Mawrth bydd gwleidyddion yn pleidleisio ar ymwneud y proffesiwn meddygol os yw person difrifol wael eisiau cymorth i farw.

Byddant yn penderfynu os fydd unigolyn yn gallu gofyn i feddyg rhoi pigiad marwol iddynt neu os bydd yn rhaid i'r person gymryd y cyffuriau i ladd eu hunain.

Unwaith y bydd y gwleidyddion wedi pleidleisio ar y cymalau, bydd y mesur yn cael ei basio i Gyngor Deddfwriaethol sydd gyfystyr a Thŷ’r Arglwyddi. Yna bydd y Cyfrin Gyngor yn Llundain yn gorfod cymeradwyo'r mesur er mwyn rhoi cydsyniad brenhinol.

Ond mae'r gweinidog mwyaf pwysig ar yr ynys wedi dweud y dylai'r cyhoedd gael pleidleisio ar y mesur cyn ei bod yn dod yn ddeddf.

Mae'r mesur yn un dadleuol gyda rhai doctoriaid wedi dweud y byddent yn ystyried gadael yr ynys os daw i rym. Mae yna hefyd wrthwynebiad o fewn y sector grefyddol.

Ar y llaw arall mae rhai teuluoedd yn dweud bod y gyfraith ar hyn o bryd yn golygu bod eu hanwyliaid yn gorfod marw mewn poen annioddefol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.