Newyddion S4C

Dau ddyn a dynes wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod yng Nghastell-nedd

13/05/2024
Heddlu

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad, wedi i ddyn gael ei anafu'n ddifrifol ger canol tref Castell-nedd. 

Mae dau ddyn 39 a 44 oed a dynes 46 oed - y tri o ardal Castell-nedd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod.

Cafodd y dyn 46 oed ei gludo i’r ysbyty ac mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae Heddlu De Cymru yn credu iddo gael ei anafu rywbryd rhwng nos Wener 10 Mai ac yn gynnar fore Sadwrn 11 Mai.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion i’r digwyddiad hwn, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu gan ddyfynnu 2400153040.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.