Newyddion S4C

Ymgyrchydd iaith yn colli ei achos dros rybudd parcio uniaith Saesneg

13/05/2024
Toni Schiavone

Mae'r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone wedi colli ei achos cyfreithiol dros rybudd parcio uniaith Saesneg.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod llys yn Aberystwyth wedi dyfarnu yn erbyn Mr Schiavone.

O ganlyniad bydd cwmni parcio One Parking Solution yn cael hawlio costau yr achos.

Dywedodd Toni Schiavone y bydd yn parhau i wrthod talu nes iddo dderbyn copi o’r rhybudd gan y cwmni parcio yn Gymraeg.

Yn ôl y farnwraig, nid oedd unrhyw sail cyfreithiol i orfodi’r cwmni i ddarparu gwasanaeth Cymraeg medd Cymdeithas yr Iaith. 

Dywed ymgyrchwyr iaith bod hyn yn dangos bod “diffyg difrifol” yn y ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.

Rhybudd

Derbyniodd Toni Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020 am barcio mewn maes parcio preifat yn Llangrannog, ond gwrthododd dalu gan na dderbyniodd y rhybudd yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, er iddo anfon dau lythyr at y cwmni yn ogystal â’u ffonio.

Taflwyd y ddau achos cyntaf o’r llys dros faterion technegol, ond mewn gwrandawiad ar 26 Ionawr, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i erlyn Mr Schiavone, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.

Yn siarad yn yr achos llys, dywedodd Toni Schiavone: “Mae’r Gymraeg yn Iaith swyddogol a chyfartal yng Nghymru ac mae gennym ni fel siaradwyr Cymraeg hawliau yn ôl y gyfraith, ac mewn egwyddor, dylid parchu hynny. 

"Mae’r cais am Daleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn rhesymol ac yn ymarferol. Byddai wedi costio tua £60 i gyfieithu.

“Gallai’r achos yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Taleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Ydy peidio gwneud hynny yn dangos rhagfarn yn erbyn y Gymraeg? Yn fy marn i, yndi.”

'Egwyddorol'

Dywedodd y farnwraig Lowri Williams bod Toni wedi ymddwyn yn “onest, egwyddorol”, ac wedi dangos “ymroddiad di-wyro i’r Gymraeg a’r achos dros yr iaith.”

Er hynny, dywedodd yn ystod ei dyfarniad nad oes unrhywbeth yn Neddf Iaith 1967, Deddf Iaith 1993, na Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 i orfodi’r cwmni parcio i ddarparu gwasanaeth Gymraeg.

Gorchmynodd bod Mr Schiavone yn talu’r rhybudd o £100, yn ogystal a £70 ar gyfer costau gweinyddol, £11.90 o log a £85 ar gyfer ffi y llys o fewn 21 diwrnod.

Mae One Parking Solution wedi cael cais am ymateb.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.