Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Dywedodd Llenyddiaeth Cymru fod Llyfr y Flwyddyn yn “wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg”.
Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.
Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn) enillodd Y Brif Wobr a Gwobr Ffuglen yn y Gymraeg yn 2023.
Ychwanegodd Llenyddiaeth Cymru: “Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.”
Y Rhestr Fer Gymraeg:
Y Wobr Farddoniaeth:
Mae Bywyd Yma - Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
Y Traeth o Dan y Stryd - Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol:
Cranogwen - Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Y Delyn Aur - Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Trothwy - Iwan Rhys (Y Lolfa)
Gwobr Ffuglen:
Sut i ddofi Corryn - Mari George (Sebra)
Anfadwaith - Llŷr Titus (Y Lolfa)
Raffl - Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy:
Jac a'r Angel - Daf James (Y Lolfa)
Astronot yn yr Atig - Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Y Nendyrau - Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)
Y Rhestr Fer Saesneg:
Y Wobr Farddoniaeth:
In Orbit - Glyn Edwards (Seren)
I Think We're Alone Now - Abigail Parry (Bloodaxe Books)
Cowboy - Kandace Siobhan Walker (CHEERIO Publishing)
Gwobr Ffeithiol Greadigol:
Sarn Helen - Tom Bullough (Granta Publications)
Birdsplaining: A Natural History - Jasmine Donahaye (New Welsh Rarebyte)
Spring Rain - Marc Hamer (Harvill Secker)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies:
Neon Roses - Rachel Dawson (John Murray)
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone - Alex McCarthy (Doubleday)
Stray Dogs - Richard John Parfitt (Third Man Books)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy:
Brilliant Black History - Atinuke (Bloomsbury Children's Books)
Skrimsli - Nicola Davies (Firefly Press)
Where the River Takes Us - Lesley Parr (Bloomsbury Children's Books)
Llun: Llenyddiaeth Cymru