Geraint Thomas yn parhau yn drydydd yn y Giro
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn parhau yn y trydydd safle yn y Giro d’Italia ar ddechrau ail wythnos y cystadlu.
Cafodd Thomas ychydig o anffawd ddydd Sul gyda 28km yn weddill o gymal naw pan gwympodd i’r llawr wrth i olwynion gyffwrdd yn dilyn cylchdro.
Nid oedd y seiclwyr yn teithio’n gyflym felly roedd Thomas nôl yn y cyfrwy heb anaf ac fe gafodd ei dywys gan ei dîm nôl i’r peloton.
Roedd cymal 9 yn 214km o hyd rhwng Avezzano a Napoli gan roi cyfle i’r gwibwyr a dihangwyr.
Fe orffennodd Thomas y cymal yn ddiogel yn y peloton gan gadw ei le yn drydydd yn y ras. Olaf Kooij o’r Iseldiroedd enillodd y cymal ac mae Tadej Pogacar o Slofenia yn dal i arwain y ras yn y Maglia Rosa.
Mae’r Giro eleni yn 3,321.2km o hyd dros 21 cymal gan ddod i ben yn Rhufain ar 26 Mai.
Fe ddaeth Thomas, 37 oed, yn ail o drwch blewyn y llynedd ac mae e’n ymgeisio yn y Giro a’r Tour de France eleni.
Dywedodd Thomas ar ddiwedd y cymal ddydd Sul cyn y dwirnod cyntaf o orffwys: "Ro’n i’n ffodus pan wnes i gwympo, doeddwn i ddim yn mynd yn gyflym ac roedd y bechgyn o’m cwmpas i felly o’n i’n iawn.
"Mae’r ras wedi bod yn ddwys ond fedrai ddim bod yn hapusach sut rydyn ni’n reidio fel tîm. Mae wedi bod yn dda heblaw am y ras yn erbyn y cloc ond felna mae ar adegau, fedrwch chi ddim cael 21 diwrnod perffaith. Felly gobeithio medrwn ni wella dros y pythefnos nesaf ac mae tipyn i anelu ato."
Llun: X Geraint Thomas