Dyn yn seiclo ar hyd Cymru i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern
Mae dyn 60 oed yn cychwyn ar daith seiclo er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r "cyswllt rhwng newid hinsawdd â chaethwasiaeth fodern".
Bwriad Gordon Miller yw seiclo 254 milltir rhwng Caerdydd a Chaergybi rhwng 13 a 17 Mai.
Bydd yn pasio Aberhonddu, Rhaeadr Gwy, Corris a Phorthmadog ar y ffordd.
Fe fydd Mr Miller yn cael cwmni’r cyn-seiclwr proffesiynol o Gymru, Ffion James.
Yn ôl Mr Miller mae yna sawl ffordd y mae newid hinsawdd yn effeithio ar gaethwasiaeth fodern.
“Mae unigolion yn cael eu gorfodi i fudo oherwydd newid hinsawdd gan olygu fod eu cartrefi a’u hardaloedd yn anghynaladwy,” meddai.
“Mae hyn yn eu gosod mewn perygl o gael eu hecsploetio ar gyfer eu masnachu fel pobl a hefyd eu gorfodi i weithio sy’n ffurf o gaethwasiaeth fodern."
Mae Mr Miller yn dal record byd Guinness am deithio’r pellter mwyaf gan ddefnyddio beic trydan mewn un wythnos.
Fe dorrodd y record yn 2021.
Mae wedi mynd ati i sefydlu’r elusen Ride For Freedom sydd yn cefnogi’r rhai sydd wedi dioddef caethwasiaeth trwy seiclo.
Y bwriad, medd Mr Millar, yw sefydlu rhaglen mewn ysgolion ar draws Cymru i helpu addysgu plant ynglŷn â chaethwasiaeth fodern.
Llun: Brij Soni