Lauren Price yn bencampwraig byd
Mae Lauren Price yn bencampwraig bocsio’r byd, y Gymraes gyntaf i wneud hynny.
Fe gurodd Price, 29 oed o Ystrad Mynach, Jessica McCaskill o Chicago yn yr Unol Daleithiau ar bwyntiau yng Nghaerdydd yn hwyr nos Sadwrn i gipio’r teitl.
Dim ond y seithfed ornest broffesiynol oedd hyn i Price. Fe enillodd Price pob rownd i ddod yn bencampwraig pwysau welter y byd ond ar ôl i bennau’r ddwy daro yn erbyn ei gilydd yn ddamweiniol, penderfynodd y dyfarnwr nad oedd yn ddiogel i’r Americanes, 39 oed, barhau.
Roedd Price wedi ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd 2020 a dywedodd fod dod yn bencampwraig y byd yn debyg i hynny.
Dywedodd: “Rwy am greu rhywbeth arbennig ar fy ôl ac yn credu taw dyma’r dechrau. Roedd yn ffeit anodd ond fe wnes i fwynhau fy hun yno heno. Rwy’n mynd i wella. Rwy’ dal yn dysgu.”
Llun: Lawrence Lustig/Boxxer