Sir y Fflint: Dyn 49 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o glwyfo
09/05/2024
Mae dyn 49 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chlwyfo yn Sir y Fflint.
Cafodd dyn 37 oed ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn y digwyddiad ym mhentref Bagillt ddydd Mercher.
Mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Roedd yr heddlu a'r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r digwyddiad ger y Stag Inn ar y Stryd Fawr yno a bu rhaid cau'r ffordd rhwng Merllyn Lane a'r A548.
Dywedodd y Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Jon Aspinall: “Hoffen ni gynnig sicrwydd i aelodau’r gymuned leol ei bod yn ymddangos mai digwyddiad ynysig oedd hon, ac nad oes bygythiad ehangach i’r cyhoedd."
Llun: Google