AS Ceidwadol yn gadael ei phlaid i ymuno gyda Llafur
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Natalie Elphicke wedi ymuno gyda'r blaid Lafur, gan feirniadu “addewidion llywodraeth flinedig ac anhrefnus Rishi Sunak”.
Croesodd AS Dover y llawr yn Nhŷ’r Cyffredin eiliadau cyn i sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog ddechrau ddydd Mercher.
Dywedodd yr aelod seneddol: “Rwyf wedi ystyried y penderfyniad hwn yn ofalus. Mae'r newid wedi bod yn ddramatig ac ni ellir ei anwybyddu.
“I mi mae tai a diogelwch ein ffiniau wedi bod yn ffactorau allweddol.”
Ychwanegodd: “O gychod bach i fioddiogelwch, mae llywodraeth Rishi Sunak yn methu â chadw ein ffiniau yn ddiogel.
"Mae bywydau'n cael eu colli yn y Sianel tra bod nifer y cychod bach sy'n cyrraedd unwaith eto eu lefelau uchaf erioed.
“Mae’n amlwg eu bod wedi methu â chadw ein ffiniau’n ddiogel ac ni ellir ymddiried ynddynt.”
Yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog, gofynnodd arweinydd Llafur Syr Keir Starmer i Mr Sunak beth oedd pwynt y llywodraeth pan fod yr “AS Torïaidd dros Dover ar reng flaen argyfwng y cychod bach yn dweud na ellir ymddiried yn y Prif Weinidog gyda’n ffiniau ac yn ymuno â Llafur?”
Cafodd Ms Elphicke ei hethol yn AS Ceidwadol dros Dover yn 2019, gan gymryd drosodd y sedd oedd gan ei gŵr Charlie ar y pryd.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd yn 2020 am ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.
Sioc
Fe ddaeth y datblygiad ddydd Mercher fel cryn sioc i nifer yn San Steffan, o gofio am sylwadau blaenorol AS diweddaraf y blaid Lafur.
Flwyddyn yn ôl, defnyddiodd Ms Elphicke golofn papur newydd i honni “nid yn unig nad oes gan Lafur gynllun eu hunain i fynd i’r afael â mewnfudo anghyfreithlon, yn syml nid ydynt eisiau gwneud hynny” ac mae’n “ymddangos yn fwriad” i greu bylchau cyfreithiol i ymfudwyr anghyfreithlon.
Fe alwodd Syr Keir Starmer yn “Syr Softie”, gan ddweud ei fod “wedi addo rhwygo ein partneriaeth sy’n arwain y byd i symud ymfudwyr anghyfreithlon i Rwanda”.
Bu AS Dover yn destun dadl flaenorol pan gymerodd ran mewn ffrae gyhoeddus gyda Marcus Rashford, gan awgrymu y dylai’r pêl-droediwr fod wedi treulio mwy o amser yn “perffeithio ei gêm” na “chwarae gwleidyddiaeth” ar ôl iddo fethu cic o'r smotyn yn rownd derfynol Ewro 2020.