Ergyd i Geraint Thomas yn y Tour de France
Mae Geraint Thomas wedi disgyn oddi ar ei feic yn ras y Tour de France.
Digwyddodd y ddamwain yn nhrydydd cymal y ras rhwng Lorient a Pondi brynhawn dydd Llun, gyda 145km ar ôl yn y cymal.
Cafodd Thomas ei drin gan staff meddygol yn fuan wedi'r digwyddiad.
Er hynny, roedd y seiclwr 35 oed yn edrych fel ei fod mewn cryn boen, yn ôl rhai oedd yn gwylio'r ddigwyddiad.
Dywedodd y sylwebydd Gareth Rhys Owen mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol: "Mae Geraint Thomas wedi cael damwain ar gymal 3 y Tour de France. Profodd feddyg ei ysgwydd ac fe wnaeth wingo."
Yn ddiweddarach fe ymunodd Thomas gyda'r peloton unwaith eto cyn parhau i rasio. Fe lwyddodd y Cymro i gwblhau cymal tri o'r ras.