Newyddion S4C

Artistiaid yn cydweithio â thrigolion Caernarfon i greu celf i'r dref

08/05/2024
Celf yng Nghaernarfon

Mae artistiaid o Gaernarfon wedi cydweithio gyda dros 60 o blant ac oedolion lleol er mwyn creu gwaith celf yng nghanol y dre' sydd wedi’i ysbrydoli gan hanes yr ardal. 

Ar y stryd fawr, neu Stryd Llyn, mae ffrinj lliw glas 200 medr o hyd wedi cael ei osod, a hynny wedi’i ysbrydoli gan gysylltiadau hanesyddol y stryd fawr â gwneuthurwyr hetiau, dillad, esgidiau a rhaffau. 

Ann Catrin Evans a Lois Prys oedd yr artistiaid a wnaeth arwain y prosiect, ac roeddynt hefyd wedi cael eu hysbrydoli gan lif afon Cadnant drwy ganol y dref. 

Mae hefyd godau QR ar y stryd sy’n cysylltu i recordiadau o straeon ac atgofion pobl leol o Stryd Llyn dros y blynyddoedd. 

Image
Celf Caernarfon

Ger hen safle’r clwb cerddoriaeth Tan-y-Bont, roedd pobl ifanc o elusen Gisda wedi cydweithio gyda phedwar artist lleol i greu'r darnau celf sydd wedi'u hysbrydoli gan y caneuon a'r cerddorion a wnaeth berfformio yn y clwb. 

Mae yna hefyd arwydd golau LED ar ffurf tonnau sain ar ochr Tŷ Golchi Pete.

Hedydd Ioan a Sarah Zyborska oedd yn arwain ar greu fideo a thrac sain o synau hanesyddol Clwb Tan-y-bont a’r dref yn yr ardal yma, sef yr ardal o amgylch maes parcio Ffordd y Felin, ac mae'r rheiny hefyd ar gael drwy godau QR. 

Image
Celf Caernarfon

Cafodd y prosiect ei gynnal gan Canfas, sef prosiect cymunedol dan arweiniad Galeri Caernarfon sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chynllun Trawsnewid Trefi Cyngor Gwynedd.

Bydd y gwaith creadigol yn parhau yn ystod Gŵyl Fwyd Caernarfon gyda gweithdai i blant a phobl ifanc yn cael ei gynnal ar Stryd Llyn am 11.00 a 14.00 ddydd Sadwrn. 

Image
Celf Caernarfon

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.