Newyddion S4C

Gwasanaeth Prawf yn dychwelyd i reolaeth gyhoeddus

Mail Online 28/06/2021
Tag electronig

Mae'r gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr wedi dychwelyd i reolaeth gyhoeddus, saith mlynedd yn unig ers iddo gael ei breifateiddio yn rhannol. 

Gwnaeth gynllun yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ar y pryd, Chris Grayling, drosglwyddo cyfrifoldeb am reoli troseddwyr risg isel a risg ganolig i ddwylo cwmnïau preifat yn 2014.

Gwnaeth y newid arwain at "ansawdd gwael" o oruchwyliaeth troseddwyr, gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn dweud nad oedd cyfraddau aildroseddu wedi lleihau, yn ôl Mail Online.

Erbyn hyn, mae Justin Russell, prif arolygydd y gwasanaeth prawf, wedi galw am fwy o arian i'r sector ac wedi rhybuddio mai dadwneud yr hyn wnaeth Mr Grayling ei gyflwyno yw un o'r "nifer" o newidiadau sydd eu hangen ar wasanaethau prawf.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Jérémy-Günther-Heinz Jähnick

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.