Newyddion S4C

Israel yn gwrthod cytundeb ar gyfer cadoediad yn Gaza

07/05/2024
Dinas Rafah yn Gaza

Mae Prif Weinidog Israel wedi dweud bod cytundeb ar gyfer cadoediad yn Gaza “ymhell o ofynion sylfaenol Israel”.

Daeth sylwadau Benjamin Netanyahu ar ôl i Hamas ddweud nos Lun eu bod wedi derbyn amodau'r cytundeb a gafodd ei gynnig gan ganolwyr o Qatar a'r Aifft. 

Roedd amodau'r cytundeb yn cynnwys cyrraedd cadoediad, ail-adeiladu Gaza, dychwelyd y rhai sydd wedi’u dadleoli a chyfnewid carcharorion, meddai swyddog Hamas, Taher al-Nono, wrth asiantaeth newyddion Reuters.

Ond yn hwyr ddydd Llun, fe gyhoeddodd swyddfa Mr Netanyahu nad oedd Israel am dderbyn amodau'r cytundeb.

“Er bod cynnig Hamas ymhell o ofynion sylfaenol Israel, bydd Israel yn anfon dirprwyaeth o gyfryngwyr i weld os oes yna bosibilrwydd o ddod i gytundeb o dan amodau sy’n dderbyniol i Israel,” meddai.

Yn y cyfamser, mae Israel wedi bwrw ymlaen â'i hymosodiad ar Rafah, sef dinas yn ne Gaza.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Israel annog 100,000 o Balesteiniaid i adael dwyrain Rafah gan rybuddio bod ymosodiad milwrol ar y gweill. 

Y gred yw bod degau o filoedd o bobl yn cael eu heffeithio gan yr ymosodiad.

 Cafodd nifer eu gweld yn gwasgu i mewn i gerbydau neu droliau mulod.

Mae'r Associated Press yn nodi bod tua 1.4 miliwn o Balesteiniaid - mwy na hanner poblogaeth Gaza - yn Rafah a'r cyffiniau.

Mae'r mwyafrif ohonyn nhw wedi ffoi o'u cartrefi mewn ardaloedd eraill yn Gaza ar ddechrau'r rhyfel ar 7 Hydref.

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.