Newyddion S4C

Jak Jones yn colli yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

06/05/2024
Jak Jones

Wedi ymgyrch ryfeddol, mae'r Cymro Jak Jones wedi colli yn rownd derfynol Pencwmpwriaeth Snwcer y Byd o 18-14 yn erbyn Kyren Wilson o Loegr. 

Ar ôl cau'r bwlch i dair ffrâm ddwywaith yn ystod sesiwn y prynhawn, doedd dim modd i Jones adennill rhagor o dir. 

Wedi dechrau sigledig ddydd Sul, pan roedd Jones ar ei hôl hi o 7-0 ar un adeg yn ystod y sesiwn gyntaf, llwyddodd y gŵr 30 oed o Gwmbrân i daro'n ôl ddydd Llun ar ail ddiwrnod y chwarae.  

Gyda'r pwysau'n cynyddu, fe wnaeth y ddau chwaraewr gamgymeriadau brynhawn Llun, ac wrth i Jones lwyddo i gau'r bwlch i dair ffrâm ddwywaith, llwyddodd Kyren Wilson i ddal ei dir ar yr adegau tyngedfennol, gan sicrhau ei fod e bum ffrâm ar y blaen cyn y sesiwn olaf nos Lun. 

Enillodd y ddau chwaraewr bedair ffrâm yr un, yn ystod y sesiwn brynhawn Llun, gyda Wilson yn ennill yr olaf.  

Yn ystod pencampwriaeth ryfeddol i Jones, sy'n rhif 44 yn y byd, bu' rhaid i'r Cymro chwarae dwy gêm yn fwy na'i wrthwynebydd Kyren Wilson, am  ei fod wedi gorfod cystadlu mewn dwy rownd ragbrofol er mwyn ennill ei le ym Mhencampwriaeth y Byd.    

 

 

     

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.