Newyddion S4C

Osian Roberts a Como 1907 yn sicrhau dyrchafiad i Serie A

10/05/2024
Osian Roberts

Mae Osian Roberts a thîm pêl-droed Como 1907 wedi sicrhau dyrchafiad i brif adran Yr Eidal, Serie A. 

Roedd Como 1907 wedi cael gêm gyfartal gyda Cosenza nos Wener.

Roedd pwynt yn ddigon i sicrhau dyrchafiad pe bai Venezia, oedd yn safle trydydd ddim yn ennill

Collodd Venezia 2-1 yn erbyn Spezia a oedd yn golygu felly bod Como 1907 yn ennill dyrchafiad.

Fe gafodd cyn-hyfforddwr Cymru ei benodi yn rheolwr dros dro clwb pêl-droed Como 1907 ym mis Rhagfyr y llynedd. 

Ymunodd â chyn chwaraewr Arsenal, Barcelona, Chelsea a Sbaen, Cesc Fàbregas, sydd hefyd yn rhan o'r tîm hyfforddi.

Mae Osian Roberts hefyd yn gyn Cyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Bêl-droed Moroco yn ogystal â chael rôl fel rheolwr cynorthwyol gyda chlwb pêl-droed Crystal Palace.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.