A ydi gorsaf fysiau newydd Caerdydd ar fin agor o'r diwedd?
Mae gorsaf bws Caerdydd ar fin agor, bron i 10 mlynedd ar ôl cau'r hen un, yn ôl adroddiad gan y comisiynydd trafnidiaeth.
Caeodd yr hen orsaf bws (uchod ar y chwith) yn 2015 a'r gobaith ar y pryd oedd y byddai un newydd ar agor erbyn 2017.
Yn y pen draw fe wnaeth Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynlluniau ar gyfer gorsaf bws newydd ym mis Tachwedd 2018, gyda dyddiad agor o 2021.
Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan swyddfa y comisiynydd trafnidiaeth bellach wedi awgrymu y gallai'r bysiau cyntaf fod yn rhedeg o'r orsaf newydd erbyn 10 Mehefin eleni.
Ond er mai'r gred yw na fydd hyn yn digwydd bellach, y gobaith ydi na fydd yn rhaid disgwyl yn rhy hir iddi agor.
Mae'r adroddiad yn dangos nifer o geisiadau gan gwmnïau bws i newid llwybrau teithio rhai gwasanaethau.
Nid oes yna ddyddiad wedi ei gadarnhau gan Drafnidiaeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym wrthi yn gweithio gyda'n partneriaid a'n gweithredwyr i gwblhau ein cynlluniau.
"Byddwn ni wedyn yn gallu cadarnhau dyddiad."
Swyddfeydd
Yn gynharach eleni, dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai'r orsaf yn agor yn y gwanwyn.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ar 15 Ebrill y byddai yna gyhoeddiad ar pryd y byddai'r orsaf yn agor yn cael ei wneud "o fewn yr wythnosau nesaf".
Dywedodd Cyngor Caerdydd pan gafodd y cynlluniau eu cymeradwyo eu bod yn gobeithio y byddai'n weithredol erbyn 2021, cyn i'r dyddiad symud i 2022/. Dywedodd yn ddiweddarach na fyddai yn agor nes ddiwedd 2023.
Bydd yr orsaf yn cynnwys 14 bae bws, 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfeydd, unedau manwerthu a 318 o fflatiau.